Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu’r CCB, yn fodd i ni fel pobl ifanc ddangos ac adrodd am y gwaith rydym wedi’i gyflawni fel Cyngor Ieuenctid i’r Aelodau o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a phenaethiaid gwasanaethau eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n gyfle hefyd i ni nodi amcanion a nodau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Rydym wedi cyflawni cymaint yn ystod y 12 mis diwethaf yn genedlaethol ac yn rhanbarthol :
• #TlodiMisglwyfSirGâr
• Yr Adroddiad Brexit
• Digwyddiadau Cymru Ifanc (megis Hawl i Holi am Brexit a Chynhadledd Cymru Ifanc)
• Senedd Ieuenctid Cymru
• Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig
• Ymgyrch Make Your Mark
• Cynhadledd Dysgu Go Iawn ar gyfer Bywyd Go Iawn
• Gwersyll Haf
• Llysgenhadon Cymunedol Hawliau Plant
• Uwchgynhadledd Ieuenctid Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r gwaith rydym wedi’i gyflawni fel pobl ifanc yn anhygoel! Mae wedi cymryd llawer o waith caled a phenderfyniad er mwyn cyrraedd lle’r ydym heddiw. Mae’r CCB yn rhoi cyfle i ni arddangos ein cyflawniadau a’n hamcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Y LANSIAD SWYDDOGO

Defnyddiom y CCB eleni fel llwyfan i lansio’r ymgyrch #TlodiMisglwyfSirGâr yn swyddogol. Rhoddodd y Cyng. Mair Stephens, Hyrwyddwr Tlodi Misglwyf, araith i’w lansio’n swyddogol yn ein CCB. Ers hynny, rydym wedi bod yn dosbarthu blychau ac eitemau #TlodiMisglwyf i ysgolion, canolfannau teulu a banciau bwyd ledled Sir Gaerfyrddin mewn ymdrech i drechu Tlodi Misglwyf gymaint ag y gallwn ac i helpu cynifer o ferched pan ddaw’r amser.

BLAENORIAETHAU

Yn ystod ein CCB, rhoddodd ein Cadeirydd, Brittany, araith am 2 o’n prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ein dwy brif flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn yw iechyd meddwl a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae iechyd meddwl yn fater mawr i bobl ifanc ac mae’n cynyddu. Mae’n fater pwysig sy’n effeithio ar bobl o bob oed ym mhobman. Ar hyn o bryd mae gennym ein hymgyrch iechyd meddwl ein hunain #StoriHarriet. Bu Harriet, sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, yn dioddef o iselder a gwnaeth hyn ei hysbrydoli i ddechrau ei hymgyrch sy’n annog pobl i ‘Ddechrau sgwrs i newid bywyd’.

Yn ystod pleidlais Make Your Mark 2018, cafodd iechyd meddwl ei nodi fel y prif fater yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfanswm o 1,035 o bleidleisiau. Mae hyn yn profi ei fod yn bryder mawr i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin, felly penderfynom fel Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin y bydd yn un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer 2019/2020.

Ein blaenoriaeth arall yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a bydd yn dathlu 30 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu ym mis Tachwedd. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol rwymol sy’n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, waeth beth fo’u hil, eu crefydd neu eu galluoedd. Mae’r CCUHP yn cynnwys 54 o erthyglau sy’n nodi hawliau plant a sut dylai llywodraethau gydweithio er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’r holl blant.