Beth y mae’r Cyngor wedi ei wneud?

Addawodd y Cyngor i leihau deunyddiau plastig untro yn adeiladau a swyddfeydd y Cyngor a gwahardd gwellt a chwpanau plastig. Sir Gaerfyrddin oedd y Cyngor cyntaf yng Nghymru i gyflwyno ceir adrannol trydan tua saith mlynedd yn ôl, ac yn ddiweddar mae wedi sicrhau cyllid ar gyfer gwefrwyr yn dilyn cynnydd yn nifer y ceir trydan sy’n cael eu gwerthu.

Mae gan y Cyngor bolisi o integreiddio technolegau carbon isel a di-garbon yn rhan o brosiectau adeiladu mawr megis ysgolion, lle mae gosodiadau ffotofoltäig a safonau Passivhaus eisoes yn cael eu defnyddio. Hyd yma, mae buddsoddiad o dros £2 filiwn wedi ei wneud mewn dros 200 o brosiectau effeithlonrwydd ynni, gan arbed dros £7 miliwn mewn costau cynnal a 41,000 o dunelli o CO2 drwy gydol oes y technolegau a osodir.

Rhoddodd yr adroddiad natur hefyd sylw i welliannau gwych eraill.

Beth allwn ni ei wneud? (fel pobl ifanc)

Agorwch eich bleindiau a defnyddiwch gymaint o olau naturiol â phosib cyn troi’r golau ymlaen yn y tŷ. Bydd pob un ohonoch yn gallu mwynhau mwy o’r haul. Diffoddwch y golau pan fyddwch yn gadael ystafell.

Tyfwch blanhigion hyd yn oed os mai ond ychydig o botiau sydd gennych o amgylch y tŷ, mae pob dim yn helpu.

Defnyddiwch drafnidiaeth gyhoeddus, ceisiwch osgoi prynu cynhyrchion wedi’u lapio mewn plastig a phrynwch fagiau papur yn lle hynny. Rhowch y gorau i brynu poteli dŵr! Prynwch ddillad ail-law pan fo’n bosibl. Dysgwch sgiliau gwnïo sylfaenol i gyweirio tyllau a gwnïo botymau yn ôl. Trawsnewidiwch hen ddillad yn rhai newydd. Er enghraifft, gellir troi ffrog nad ydych chi’n ei gwisgo yn dop a sgert neu ei gwerthu fel y gall rhywun arall gael rhywfaint o ddefnydd ohonynt. Defnyddiwch jariau a photeli gwag at ddibenion arall. Gallwch eu defnyddio i gadw trugareddau. Cadwch fagiau anrheg a bocsys i’w defnyddio yn y dyfodol.

Beth am roi profiadau i bobl yn lle rhoi pethau iddynt, mae prynu bwyd iddynt yn syniad da neu prynwch yn lleol gan fusnesau bach. Defnyddiwch Ecosia. Maent yn buddsoddi eu helw mewn plannu coed, a chânt eu cynnal ar ynni adnewyddadwy 100%. Benthyciwch lyfrau o’r llyfrgell yn lle eu prynu. Yn bwysicach fyth, gallwch annog eraill.

Does dim angen ichi wneud pob un o’r rhain, mae pob peth bach yn helpu. Os byddwch yn gwneud camgymeriad, bydd neb yn eich barnu, dysgu yr ydych yn ei wneud a dyna sy’n bwysig.

Beth all eich ysgol/cymuned ei wneud i fod yn fwy cynaliadwy?

  • Peidio â defnyddio plastig
  • Plannu coed neu greu gardd gymunedol
  • Prynu bin compost i ailddefnyddio gwastraff bwyd
  • Diffodd goleuadau pan nad oes neb yn yr ystafell neu brynu goleuadau sy’n synhwyro golau fel eu bod yn diffodd pan fydd hi’n heulog
  • Prynu poteli y gellir eu hailddefnyddio
  • Rhoi’r gorau i brynu plastigau untro, neu os ydych yn gwneud hynny prynwch blastig wedi’i ailgylchu neu blastig y gellir ei ailgylchu.
  • Cymryd nodiadau ar ffurf ddigidol rhag defnyddio cymaint o bapur. Prynu argraffwyr eco neu fwy effeithlon
  • Buddsoddi mewn paneli solar
  • Defnyddio ynni adnewyddadwy
  • Annog pobl i ddefnyddio ecosia
  • Ailddefnyddio dŵr glaw

Arwen Skinner