Wrth gael fy ngwisg, sylweddolais nad oedd fersiynau o deis eco-gydnaws ar gael, er bod y rhan fwyaf o’n dillad o bolyester (math o blastig) sef un o’r prif fathau o lygryddion plastig.
Dechreuais ar brosiect ym mis Medi 2019 yn ceisio sicrhau bod pob tei yn fy ysgol wedi’i greu o blastig wedi’i ailgylchu. Fe wnes i ddod o hyd i gwmni a oedd yn creu teis o boteli plastig 2 litr sydd wedi’u harbed rhag eu tirlenwi a’u gwneud yn edau.
Ym mis Rhagfyr 2020 ar ôl y bleidlais ‘Make your Mark’ a’r mater yn ymwneud â Llygredd Plastig. mae’n braf ein bod ni’n gallu cyhoeddi hyn.
Mae hyn wedi cymryd cryn amser wedi i sawl e-bost gael eu hanfon rhwng gwahanol gwmnïau. Bydd teis eco-gydnaws ar gael i’w prynu am bris o £4.65 yn Evans & Wilkins! Er mai £4.50 yw pris tei ysgol arferol, dyma gam enfawr i’r cyfeiriad cywir.
Arwen Skinner