O ymgyrchu dros Senedd Ieuenctid Cymru yn 2018, i ymuno â Youth Cymru a Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar, rwyf yn angerddol dros wleidyddiaeth ac yn ymwneud cryn dipyn â’r maes.
Yr adeg honno, er bod yr holl fanylion ynglŷn â sut yr oedd llywodraethau, cynghorau a gwleidyddiaeth yn gweithio yn ddryslyd, roeddwn i’n awyddus i weld rhai newidiadau roeddwn i’n gwybod bod angen iddynt ddigwydd, a pha ffordd well o wneud hynny na chyfrannu’n uniongyrchol?
Rwyf bob amser wedi meithrin y meddylfryd “os nad oes neb arall yn gwneud, yna fe wna i”. Roeddwn i’n teimlo nad oedd llawer o enwau adnabyddus yn y byd gwleidyddol neu gyhoeddus yng Nghymru ar y pryd yn rhoi sylw i faterion yn ymwneud â LGBTQ + ac iechyd meddwl yn benodol, felly roeddwn i’n awyddus i godi ymwybyddiaeth am y materion hyn a chwilio am eraill a oedd â nod tebyg.
Wrth reswm, mae llawer mwy o ffocws wedi cael ei roi ar faterion yn ymwneud â LGBTQ + a thrafodaethau iechyd meddwl yn ystod y blynyddoedd diwethaf; ac mae hyn wedi fy annog i barhau i fod yn weithgar yn y byd gwleidyddol gan ei bod yn amlwg fod rhywbeth yn gweithio. Ond gan fod llawer i’w wneud o hyd, rwy’n dal yn awyddus i ymwneud â gwleidyddiaeth.
Dysgu am brofiadau eraill sydd yn fy annog i yn anad dim; o homoffobia achlysurol mewn ysgolion i fwlio hiliol a stigma iechyd meddwl seiliedig ar hen gelwyddau, mae’r rhain yn broblemau go iawn y mae pobl yn eu hwynebu Rwy’n awyddus i helpu eraill sy’n dioddef.
(Rhaid cyfaddef fy mod hefyd wedi cael fy nhanio gan fy ngwrthwynebiad i rywfaint o gynnwys unedau Bagloriaeth Cymru, ond mater i’r dyfodol yw hwnnw.)
Laurie Thomas