Ar ddydd Mercher 18 TACHWEDD 2015 cynhaliwyd ein Cynhadledd Ieuenctid flynyddol. I ddathlu wythnos gwrth-fwlio 2015, aeth ein thema cynhadledd i’r afael â bwlio ac fe’i galwyd yn “Sefyll yn erbyn bwlio! ”
Continue reading “Sefyll lan yn erbyn bwlio”Cyflawni Dros 1200 o Oriau Gwirfoddoli
Fel Cynghorwyr Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydym mor falch ein bod wedi cyfrannu dros 1200 o oriau at waith Cyfranogiad a Hawliau Plant ar raddfa leol, ranbarthol a chenedlaethol dros y 12 mis diwethaf. Er mwyn dathlu ein horiau gwirfoddoli, cyflwynodd y Cyng. Cefin Campbell, Aelod y Bwrdd Gweithredol dros Gymunedau a Materion Gwledig, a Marie Mitchell, Prif Swyddog o Gyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin (CGGSG), Dystysgrifau Cenedlaethol Gwirfoddolwyr y Mileniwm Cenedlaethol inni, i gydnabod yr amser a gyfrannwyd.

Mae CGGSG, Cyngor Sir Caerfyrddin a’r Cyngor Ieuenctid wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth ers 2007 i sicrhau bod pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn derbyn cydnabyddiaeth drwy Gynllun Cydnabod Ieuenctid CGGSG a Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm. Ers 2007, mae 92 o Gynghorwyr Ieuenctid wedi cofrestru ar Gynllun Cydnabod Ieuenctid a Gwirfoddolwyr y Mileniwm CGGSG.
Yn ôl Amber Trehane, Cynghorydd Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, sy’n 14 oed ac yn hanu o Borth Tywyn “Ers dod yn aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin rydw i wedi cael llawer o wahanol brofiadau drwy wirfoddoli. Mae gwirfoddoli yn brofiad sy’n talu ar ei ganfed achos mae’n dy ddatblygu di fel cymeriad. Mae’n rhoi cyfoeth o brofiadau i ti, ond hefyd yn dy alluogi di i ennill amrywiaeth o sgiliau, fel gwaith tîm, sydd o fudd iti yn dy fywyd bob dydd, a hefyd wrth iti symud ymlaen i astudio ymhellach a chychwyn gyrfa. Bydden i’n cynghori unrhyw un i wirfoddoli os ydyn nhw’n cael cyfle i wneud hynny, achos dim ond ar ôl gwneud hynny y mae rhywun yn gweld pa mor fuddiol yw’r profiad!”
Am ragor o luniau o’r cyflwyniad ewch i’n instagram
Ar hyd y blynyddoedd, mae Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin a Fflur Lawlor, Swyddog Gwirfoddoli o CGGSG wedi bod yn cydweithio ac yn gwrando ar ein safbwyntiau er mwyn cydnabod gwaith, amser ac ymrwymiad pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn eu cymunedau lleol o fewn y sir. Rhyngddynt maent wedi datblygu Cynllun Cydnabod Ieuenctid i bobl ifanc 11-14 oed, wedi lobïo GwirVol, menter Gwirfoddoli Ieuenctid Cymru, i ostwng oedran Gwirfoddolwyr y Mileniwm o 16 i 14, ac wedi llwyddo yn hynny o beth. Yn fwyaf diweddar, maent hefyd wedi datblygu tystysgrif 500 awr.
Yn ôl Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad “Nid yw geiriau’n ddigon i gyfleu fy niolch am holl amser, ymdrech ac ymrwymiad holl aelodau Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin tuag at fy ngwaith a’r Agenda Hawliau Plant yn lleol a chenedlaethol. Hoffwn ychwanegu ein bod yn gwerthfawrogi ac yn trysori eu gwaith gwirfoddol”
TYSTYSGRIF GWIRFODDOLI 500 AWR NEWYDD

Lansiwyd Tystysgrif Gwirfoddoli Ieuenctid 500 awr Sir Gaerfyrddin yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ar gyfer 2018, a’n Cadeirydd, Brittany Alsop-Bingham oedd yr unigolyn ifanc cyntaf i’w derbyn. Mae’r dystysgrif yn cydnabod ei hymrwymiad i rannu ei hadnodd mwyaf gwerthfawr – ei hamser – i wneud gwahaniaeth yn ein sir, ac mae ei haelioni wedi cael effaith wirioneddol a pharhaol ar blant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
Yn ôl Brittany Alsop-Bingham, “Anrhydedd o’r mwyaf yw cael derbyn Tystysgrif 500 awr Sir Gaerfyrddin. Rwy’n teimlo fy mod wedi ennill nifer o sgiliau wrth wirfoddoli gyda Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ac mae fy rôl fel Cadeirydd wedi cynyddu fy hyder wrth siarad yn gyhoeddus, ac wedi gwella fy sgiliau cyfathrebu. Bydden i’n annog unrhyw un i wirfoddoli”
RYDYM NI’N CYFRIF. RYDYM NI’N GWNEUD GWAHANIAETH
Ffordd o gydnabod yr hyn yr ydym ni wedi’i wneud yw Gwirfoddolwyr y Mileniwm, ac mae’n dangos ein hymrwymiad i sicrhau bod gan blant a phobl ifanc lais yn Sir Gaerfyrddin. Ceir sawl rheswm i wirfoddoli … dyma ambell un:
- Mae gwirfoddoli yn ffordd wych o gefnogi achos sydd yn agos at eich calon ac o ddysgu pethau newydd yr un pryd.
- Datblygu eich profiad a’ch sgiliau a chynyddu eich hyder yr un pryd.
- Gwneud gwahaniaeth i bobl eraill.
- Cwrdd â phobl, cael hwyl a bod yn rhan o’ch cymuned.
- Teimlo eich bod yn cael eich gwerthfawrogi, a gwneud gwahaniaeth.
Mae cyfle gwirfoddoli ar gael i bawb, ac os ydych chi’n 11 i 25 oed a bod gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli, neu os ydych eisoes yn gwirfoddoli yn Sir Gaerfyrddin ac am wybod mwy ynglŷn â Chynllun Gwirfoddolwyr y Mileniwm, cysylltwch â Chymdeithas Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Gaerfyrddin drwy fynd i wefan CGGSG, ffonio 01267 245555 neu anfon e-bost i admin@cavs.org.uk
Lledaenu’r Neges Ynghylch Hawliau Plant

CYNLLUN LLYSGENHADON CYMUNEDOL HAWLIAU PLANT
Rydym bellach yn rhan o’r Cynllun Llysgenhadon Cymunedol Hawliau Plant ac rydym yn llawn cyffro ein bod yn cael y cyfle i gymryd rhan a lledaenu’r neges ynghylch Hawliau Plant! Dyma’r tro cyntaf inni gael Llysgenhadon.
Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan Sally Holland, sef Comisiynydd Plant Cymru. Swydd Sally yw dweud wrth bobl pam y mae Hawliau Plant mor bwysig, ac edrych ar sut y mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cael effaith ar Hawliau Plant.
Pan gyhoeddwyd yn ein cyfarfod misol y byddai cyfle i rai aelodau ddod yn Llysgenhadon Cymunedol Hawliau Plant, roeddwn yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr hoffwn fod yn rhan ohono. Teimlaf fod Hawliau Plant yn bwnc mor bwysig felly mae’n wych bod Sally Holland wedi dechrau’r Cynllun Llysgenhadon hwn. Drwy ddod yn llysgennad rwyf yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau plant ymysg plant a phobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, rwyf yn gobeithio gwella fy ngwybodaeth am Hawliau Plant oherwydd byddwn wrth fy modd yn ehangu fy nealltwriaeth am y pwnc. Bellach rwyf yn un o Lysgenhadon Hawliau Plant cyntaf Sir Gaerfyrddin, sydd yn gyfle anhygoel a hefyd yn fraint fawr. Ni allaf aros nes gweld beth fydd yn dod i’m rhan i a Sir Gaerfyrddin yn sgil y cynllun hwn.
EFALLAI Y BYDD RHAI OHONOCH YN MEDDWL TYBED BETH YW HAWLIAU PLANT?
Drwy gydol y cynllun, gyda chymorth gan Dîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Sir Gaerfyrddin, y gobaith yw y bydd ein Llysgenhadon Cymunedol yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant er mwyn bod rhagor o blant a phobl ifanc yn wybodus ynghylch y pwnc a bod ganddynt well dealltwriaeth ohono, ond tan hynny dyma ddisgrifiad byr o hawliau plant.
Mae angen hawliau arbennig ar blant oherwydd bod angen eu diogelu’n fwy nag oedolion, a dyna’r rheswm y cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ei greu. Mae gan y CCUHP restr o 52 o erthyglau yn gyfan gwbl ac mae 42 o’r rhain yn hawliau ar gyfer plant. Mae’r 10 erthygl arall ynghylch sut y dylai oedolion a llywodraethau weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod plant yn gallu cael eu hawliau.
EIN SWYDDOGAETH FEL LLYSGENHADON
Fel llysgenhadon cymunedol bydd gennym dair prif swyddogaeth, sef:
• Dweud wrth eraill am Hawliau Plant
• Dweud wrth eraill am Sally a Thîm y Comisiynydd Plant
• Bod yn llais y Comisiynydd Plant ar lawr gwlad a chyfrannu at ei gwaith drwy gwblhau ymgyrchoedd (pob tymor) lle y byddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc eraill i grynhoi eu sylwadau ar ystod eang o faterion sy’n bwysig iddynt.
YDYCH CHI AM FOD YN LLYSGENNAD AR GYFER SIR GAERFYRDDIN?
Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ein gwaith fel llysgenhadon gan fod codi ymwybyddiaeth o hawliau plant yn rhywbeth rydym yn teimlo’n gryf yn ei gylch fel Cyngor Ieuenctid. Os ydych rhwng 11 a 24 oed, mae cyfleoedd ichi gymryd rhan fel Llysgenhadon Hawliau Plant, felly os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud cysylltwch â ni neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ichi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl waith y byddwn yn ei wneud!
Yn ogystal, i gael rhagor o wybodaeth am Gomisiynydd Plant Cymru ewch i’r wefan: https://www.complantcymru.org.uk/
Senedd Ieuenctid Cymru
Ym mis Mehefin, cymerom ni ran mewn digwyddiad ymgynghori a gynhaliwyd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ynghylch datblygiad cyffrous Senedd Ieuenctid newydd Cymru, y cyntaf o’i math.
Continue reading “Senedd Ieuenctid Cymru”Gwen Griffiths, aelod o Senedd Ieuenctid y DU ar gyfer Sir Gaerfyrddin, yn ymgyrchu dros ‘Pleidleisio@16’

Yn gynharach eleni, ymunodd Gwen, 17 oed o Ben-bre, sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ac yn Swyddog Cyfathrebu etholedig, â bron 300 o aelodau etholedig o Senedd Ieuenctid y DU i lansio ymgyrch am flwyddyn i ehangu’r sgwrs a chasglu barn a safbwyntiau am Pleidleisio@16, sef mater blaenoriaeth Senedd Ieuenctid y DU am y flwyddyn. Roedd yr ymgyrch yn dilyn trafodaeth genedlaethol ynghylch Pleidleisio@16 yr oedd Gwen yn bresennol ynddi yn Nhŷ’r Cyffredin ym mis Tachwedd 2016.
Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol
Ar y Diwrnod Gweithredu Cenedlaethol ym mis Ionawr 2017 bu aelodau o’r Senedd Ieuenctid ledled y DU yn cwrdd â gwleidyddion a wahoddwyd i ymuno â’r ymgyrch i gefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed. Trefnodd Gwen, oedd yn arwain grŵp o aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, i gwrdd ag Aelodau Seneddol lleol, sef Nia Griffiths AS (Llanelli), Simon Hart AS (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro) a Jonathan Edwards AS (Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr) i drafod yr ymgyrch Pleidleisio@16 a chael gwybod am eu cefnogaeth a’u barn mewn perthynas â rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio ym mhob etholiad lleol a chyhoeddus.
Dadleuon Cynghorau Ysgol
Mewn ymateb i’r adborth cadarnhaol a gafwyd gan yr Aelodau Seneddol a chael darlun cliriach o ran lefel y gefnogaeth penderfynodd tîm Senedd Ieuenctid y DU i ymestyn yr ymgyrch drwy hyrwyddo Pleidleisio@16 i gynulleidfa ehangach a threfnu cwrdd ag enwogion lleol i ofyn iddynt am eu barn. Roedd y rhain yn cynnwys trefnu i Gwen gwrdd ag aelodau o dîm rygbi y Scarlets. Mae Gwen a thîm Senedd Ieuenctid y DU hefyd wedi bod yn brysur yn hyrwyddo Pleidleisio@16 ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #Pleidleisio@16 gyda lluniau o bobl sydd wedi datgan eu cefnogaeth yn dal ffrâm luniau bwrpasol, a ddatblygwyd yn benodol i hyrwyddo’r ymgyrch.
Mae Cynghorwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cyfarwyddwr Dros Dro Addysg a Phlant, Penaethiaid Gwasanaeth, uwch-reolwyr ac aelodau o staff y Cyngor eisoes wedi ymrwymo i gefnogi’r ymgyrch ac mae Gwen wedi tynnu lluniau ohonynt. Mae’r rhain yn cynnwys y Cynghorydd Glynog Davies, Gareth Morgans, Stefan Smith, Aeron Rees, Andi Morgan a David Astins. Dywedodd Gwen “Mae’n wych cwrdd â’r bobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y sir a gweld cymaint o gefnogaeth y mae’r ymgyrch yn ei chael.”
Hefyd mae Gwen yn bwriadu gwella’r presenoldeb ar y cyfryngau cymdeithasol ymhellach drwy fynd i ganol tref Caerfyrddin a’r cyffiniau gyda’r ffrâm luniau i roi cyfle i aelodau o’r cyhoedd gymryd rhan ac ymrwymo i gefnogi ymgyrch Pleidleisio@16.
Cyflwyno cynnig i’r Cyngor
Yn ddiweddar cyfarfu Gwen â’r Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros Addysg a Phlant, i weithio gydag ef i greu cynnig y mae’r Cynghorydd Davies wedi cytuno i’w roi gerbron y Cyngor Llawn ar 18 Hydref 2017 i gael dadl ynghylch y cynnig ac yna’n bwrw pleidlais i weld a ydynt yn cefnogi rhoi’r hawl i bobl ifanc 16 a 17 oed i bleidleisio mewn etholiadau cyhoeddus lleol a chenedlaethol. Mae’n gyflawniad gwych i Gwen, gan mai hi yw’r person ifanc cyntaf i roi cynnig gerbron y Cyngor Llawn.
Ymgyrch ar y Cyfryngau Cymdeithasol
Mae Gwen wedi bod yn brysur yn casglu barn a safbwyntiau pobl ifanc ar yr ymgyrch ac yn ystod yr wythnosau nesaf bydd yn cydgysylltu’n agos â’r cynrychiolwyr ysgolion uwchradd sydd newydd eu hethol y mae wedi gofyn iddynt drefnu dadleuon ynghylch Pleidleisio@16 yn eu hysgol erbyn diwedd mis Hydref. Mae Gwen yn annog pob person ifanc yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan, er mwyn penderfynu a ydynt yn cefnogi’r ymgyrch.
DEWCH I GYMRYD RHAN!!
Gallwch gymryd rhan a chefnogi’r ymgyrch drwy rannu eich barn ar-lein #Pleidleisio@16.