#PeriodPovertySirGâr

Rydym wedi bod yn ymdrin â thlodi misglwyf gyda Gwasanaethau Addysg a Chymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r pwnc sy’n effeithio ar gynifer o fenywod a merched ifanc mor bwysig; mae un ym mhob deg o1 10 Pic Cym ferched y DU rhwng 14 a 21 oed yn methu fforddio eitemau misglwyf.

Cawsom fraw wrth ddod ar draws yr ystadegau, a chawsom fwy fyth o fraw o sylweddoli bod rhai merched ifanc yn aros gartref o’r ysgol am fod dim digon o gadachau ganddynt adeg y misglwyf. Dyma pam y penderfynom ddechrau’r prosiect tlodi misglwyf i sicrhau nad oes yr un ferch yn gorfod colli addysg pan fyddant ar eu misglwyf. Dyma pam y penderfynasom ddechrau’r prosiect tlodi cyfnod i sicrhau nad oes gan unrhyw ferch yr hawl i addysg gael ei pheryglu tra’i fod ar eu cyfnod, a’r un mor bwysig, bod angen newid ein hagweddau; Mae angen i ni roi’r gorau i’r teimlad o gywilydd ac embaras sy’n gysylltiedig ag “amser y mis” merch. Gan weithio gyda staff y Cyngor Sir Rydym wedi cymryd rhan yn y gwaith o gasglu barn pobl ifanc a lleisio ein barn er mwyn sicrhau fod grant Llywodraeth Cymru a roddir i bob awdurdod lleol yng Nghymru yn cael ei wario yn y ffordd orau bosibl

Continue reading “#PeriodPovertySirGâr”

RHANNU EIN PRYDERON AG ARWEINWYR LLEOL

Rydym wedi penderfynu creu 10 o swyddi Swyddog â Thema. Rôl a chyfrifoldeb y swyddogion hynny fydd cydweithio’n agosach â Bwrdd Gweithredol y Cyngor Sir gan gefnogi themâu portffolio priodol. Ein peilot llwyddiannus #Cysgodi yn 2017 a arweiniodd at y syniad i greu’r swyddi hyn.

Yn rhan o’r prosiect bu aelodau o’r Cyngor Ieuenctid yn treulio’r diwrnod yn cysgodi Cynghorwyr Sir Gaerfyrddin er mwyn cael blas ar eu gwaith fel Aelodau o’r Bwrdd Gweithredol. Yn ystod y diwrnodiau #Cysgodi, cafodd y Cynghorwyr Ieuenctid gyfle i gwrdd â chynghorwyr a staff y cyngor ac i ofyn cwestiynau i’r adrannau a’r gwasanaethau amrywiol y buont ymweld â hwy. Roedd cysgodi Cynghorwyr Sir yn brofiad diddorol iawn. Cawsom gipolwg o ddiwrnod ym mywyd aelod o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin.

Continue reading “RHANNU EIN PRYDERON AG ARWEINWYR LLEOL”

Lledaenu’r Neges Ynghylch Hawliau Plant


CYNLLUN LLYSGENHADON CYMUNEDOL HAWLIAU PLANT 
Rydym bellach yn rhan o’r Cynllun Llysgenhadon Cymunedol Hawliau Plant ac rydym yn llawn cyffro ein bod yn cael y cyfle i gymryd rhan a lledaenu’r neges ynghylch Hawliau Plant! Dyma’r tro cyntaf inni gael Llysgenhadon. 

Mae’r cynllun yn cael ei weithredu gan Sally Holland, sef Comisiynydd Plant Cymru. Swydd Sally yw dweud wrth bobl pam y mae Hawliau Plant mor bwysig, ac edrych ar sut y mae’r penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, yn cael effaith ar Hawliau Plant. 

Pan gyhoeddwyd yn ein cyfarfod misol y byddai cyfle i rai aelodau ddod yn Llysgenhadon Cymunedol Hawliau Plant, roeddwn yn gwybod ei fod yn rhywbeth yr hoffwn fod yn rhan ohono. Teimlaf fod Hawliau Plant yn bwnc mor bwysig felly mae’n wych bod Sally Holland wedi dechrau’r Cynllun Llysgenhadon hwn. Drwy ddod yn llysgennad rwyf yn gobeithio codi ymwybyddiaeth ynghylch hawliau plant ymysg plant a phobl ifanc ledled Sir Gaerfyrddin. Yn ogystal, rwyf yn gobeithio gwella fy ngwybodaeth am Hawliau Plant oherwydd byddwn wrth fy modd yn ehangu fy nealltwriaeth am y pwnc. Bellach rwyf yn un o Lysgenhadon Hawliau Plant cyntaf Sir Gaerfyrddin, sydd yn gyfle anhygoel a hefyd yn fraint fawr. Ni allaf aros nes gweld beth fydd yn dod i’m rhan i a Sir Gaerfyrddin yn sgil y cynllun hwn.

EFALLAI Y BYDD RHAI OHONOCH YN MEDDWL TYBED BETH YW HAWLIAU PLANT? 

Drwy gydol y cynllun, gyda chymorth gan Dîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Sir Gaerfyrddin, y gobaith yw y bydd ein Llysgenhadon Cymunedol yn gweithio i godi ymwybyddiaeth o Hawliau Plant er mwyn bod rhagor o blant a phobl ifanc yn wybodus ynghylch y pwnc a bod ganddynt well dealltwriaeth ohono, ond tan hynny dyma ddisgrifiad byr o hawliau plant. 

Mae angen hawliau arbennig ar blant oherwydd bod angen eu diogelu’n fwy nag oedolion, a dyna’r rheswm y cafodd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ei greu. Mae gan y CCUHP restr o 52 o erthyglau yn gyfan gwbl ac mae 42 o’r rhain yn hawliau ar gyfer plant. Mae’r 10 erthygl arall ynghylch sut y dylai oedolion a llywodraethau weithio gyda’i gilydd er mwyn sicrhau bod plant yn gallu cael eu hawliau. 

EIN SWYDDOGAETH FEL LLYSGENHADON 
Fel llysgenhadon cymunedol bydd gennym dair prif swyddogaeth, sef: 
• Dweud wrth eraill am Hawliau Plant
• Dweud wrth eraill am Sally a Thîm y Comisiynydd Plant
• Bod yn llais y Comisiynydd Plant ar lawr gwlad a chyfrannu at ei gwaith drwy gwblhau ymgyrchoedd (pob tymor) lle y byddwn yn siarad â phlant a phobl ifanc eraill i grynhoi eu sylwadau ar ystod eang o faterion sy’n bwysig iddynt. 

YDYCH CHI AM FOD YN LLYSGENNAD AR GYFER SIR GAERFYRDDIN?
Rydym yn edrych ymlaen at ddechrau ein gwaith fel llysgenhadon gan fod codi ymwybyddiaeth o hawliau plant yn rhywbeth rydym yn teimlo’n gryf yn ei gylch fel Cyngor Ieuenctid. Os ydych rhwng 11 a 24 oed, mae cyfleoedd ichi gymryd rhan fel Llysgenhadon Hawliau Plant, felly os yw hyn yn rhywbeth yr hoffech ei wneud cysylltwch â ni neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol er mwyn ichi gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr holl waith y byddwn yn ei wneud! 


Yn ogystal, i gael rhagor o wybodaeth am Gomisiynydd Plant Cymru ewch i’r wefan: https://www.complantcymru.org.uk/