CWESTIYNAU: Diogelu Ein Hamgylchedd

Cyfarfod Zoom gyda Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd

Cafodd Cai ac Arwen gyfle i gyfarfod â’r Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod o’r Bwrdd Gweithredol dros yr Amgylchedd, yn rhithwir i gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ei wneud i ddiogelu’r amgylchedd gan ganolbwyntio ar ei ymgyrch ‘I ddiogelu ein hamgylchedd’ yn ystod rhan o Orffennaf Di-blastig.

Roeddem am gyfarfod â’r Cynghorydd Hazel Evans gan ein bod yn credu ei bod yn bwysig bod Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymwybodol o farn pobl ifanc. Aeth y cyfarfod yn dda iawn, cawsom drafodaeth adeiladol am nifer o bynciau gwahanol. Dyma’r hyn a ddywedwyd!

C1. Rydym yn fwyfwy ymwybodol o effaith ddinistriol plastig untro ar yr amgylchedd – pam ydym ni’n dal i weld cymaint o blastig yn ffreuturau ein hysgolion?

Y Cynghorydd Evans: Rydym yn gweithio ar fenter newydd gan Lywodraeth Cymru ynghylch plastig untro. Nid yw plastig untro ei hun yn ofnadwy, ond yn hytrach y ffordd y caiff ei waredu. Os ydych yn defnyddio plastig ac yn ei waredu’n gywir, nid yw hynny’n niweidiol. Nid yw mor syml â hynny e.e. i newid y poteli llaeth plastig am boteli gwydr mewn ysgolion cynradd, i sicrhau ei bod yn gydnaws â’r amgylchedd, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r botel wydr hon ugain gwaith i gael lefel carbon cyfwerth.

Arwen: Pam fod cymaint o anghysondeb rhwng gwahanol ffreuturau ysgolion. e.e. Mae Bro Myrddin wedi gwahardd plastig yn ei ffreutur ond nid yw Ysgol Uwchradd y Frenhines Elisabeth wedi gwneud hynny.

Y Cynghorydd Evans: Rydym yn gweithio i sicrhau bod polisi ar waith ledled Sir Gaerfyrddin ynghylch hynny.

C2. Ar ôl i Gyngor Sir Caerfyrddin ddatgan Argyfwng Hinsawdd, roedd y Cynllun Carbon Sero-net i fod yn barod erbyn mis Chwefror 2020. Beth yw’r datblygiadau o ran y cynllun?g the plan?

Y Cynghorydd Evans: Fe’i lansiwyd ar 20 Chwefror ac mae ar gael ar wefan CSC. Ni oedd y sir gyntaf yng Nghymru i gyhoeddi cynllun gweithredu newid yn yr hinsawdd, a gafodd ei gymeradwyo gan y cyngor llawn ar 12 Chwefror ac roedd pob adran yn y cyngor yn rhan ohono. 

Cai: Roedd un o bwyntiau’r cynllun yn ymwneud â Chronfa Bensiwn Dyfed – bydd CSC yn ymwahanu oddi wrth fuddsoddiadau tanwydd ffosil.

Y Cynghorydd Evans: Nid yw’r cyngor yn cael gwneud hynny (newid i ynni adnewyddadwy) ar ei ben ei hun ac mae’n rhaid iddynt ymgynghori â chwmnïau a gwahanol grwpiau. Mae gan Gronfa Bensiwn Dyfed nifer fawr o aelodau a byddent yn gweithio tuag hynny e.e. Mae BP yn un o’r buddsoddwyr ac mae’n buddsoddi llawer o arian mewn materion ecolegol, felly nid yw hyn bob amser yn negyddol. O ran y gronfa bensiwn – rydym yn ei gweinyddu ond rydym yn gwneud hynny ar ran llwyth o gyrff felly nid ydym yn gallu gwneud y newidiadau ar ein pennau ein hunain.

C3. O ran Clefyd Coed Ynn, gwelwn fod nifer o goed wedi eu heffeithio yn ein sir – beth mae CSC yn ei wneud i dyfu coedwigoedd gwydn a phlannu coed newydd yn lle’r rhai sydd wedi eu heffeithio?

Y Cynghorydd Evans: Mae gennym grŵp Clefyd Coed Ynn mewnol sy’n edrych ar gyfleoedd ailblannu. Mae hyn yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd. Cawsom grant i blannu prosiectau coetir mewn dwy ardal; Dafen, Llanelli a Maesdewi, Llandybie. Rydym yn edrych ar diroedd eraill sydd gennym sydd yn gallu bod yn addas ar gyfer plannu coed hefyd.

C4. Beth ydych chi’n ei wneud i hyrwyddo prosiectau amgylcheddol yn Sir Gaerfyrddin – er enghraifft, newid i ynni adnewyddadwy?

Y Cynghorydd Evans: Er enghraifft, cynhyrchodd y felin wynt yn Nant-y-Caws ddigon o ynni ar gyfer 400 o gartrefi. Rydym yn gweithio gyda’r Bwrdd Trydan ar ddatblygu cysylltiad ar gyfer ffynonellau adnewyddadwy. Rydym yn gosod llawer o baneli solar. Ein nod yw, pan fydd cost trosi batris yn lleihau, byddwn yn gallu cyflenwi ein holl gartrefi ag ynni adnewyddadwy.

Gwnaethom hefyd lofnodi Bargen Ddinesig Bae Abertawe i gael cartrefi yn orsafoedd pŵer, lle mae’n rhaid i bob eiddo newydd a adeiledir fod yn gydnaws â’r amgylchedd gyda chymaint o ddeunydd inswleiddio a hunan-gyflenwi â phosibl. Mae gennym lawer o gerbydau trydan ar gyfer ceir adrannol, a phan brynwyd ein lorïau sbwriel nhw oedd y rhai mwyaf cydnaws â’r amgylchedd. Rydym yn ystyried prynu rhagor o gerbydau ac ar hyn o bryd mae rhai hydrogen yn cael eu profi.

Yn ogystal, mae bron pob un o’r goleuadau stryd yn Sir Gaerfyrddin yn rhai LED sy’n golygu nad ydynt yn defnyddio llawer o ynni.

Mae prosiectau bioamrywiaeth yn cael eu datblygu e.e. ardal gwarchod glöynnod byw. Wth ystyried pob cais cynllunio, mae’n rhaid i ni edrych ar yr effaith amgylcheddol a sut i liniaru’r effaith honno. E.e. gyda’r ffordd osgoi newydd sy’n cael ei hadeiladu yn Cross Hands, roedd yn rhaid symud y perthi fel yr oeddent er mwyn cadw’r bywyd gwyllt.  Mae’n golygu arbed yr amgylchedd yn ogystal â thorri costau.

C5. Ar ôl Ymgyrch Make Your Mark – ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn y DU, a gynhaliwyd fis Hydref diwethaf, cafodd y broblem o ollwng sbwriel ei bleidleisio fel y broblem leol fwyaf pwysig gan bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin. Beth mae CSC yn ei wneud i fynd i’r afael â’r broblem o daflu sbwriel yn ein sir?

Y Cynghorydd Evans: Mae gennym Gynllun Rheoli Sbwriel ar waith, mae’r ddogfen hon yn amlinellu sut yr ydym ni fel sir yn rheoli’r broblem o ollwng sbwriel. Mae Grŵp Ansawdd Lleol wedi cael ei gyflwyno i edrych ar ffyrdd gwahanol o fynd i’r afael â’r broblem. Mae gennym Orchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus sy’n ymdrin â baw cŵn a materion eraill yn ymwneud â chŵn. Cyflwynwyd Pwerau Gorfodi newydd i fynd i’r afael â phroblemau sbwriel a gwastraff yn y sir. 

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar ymgyrch sbwriel newydd a fydd yn cael ei chynnal ym mis Medi. Bydd hyn yn tynnu sylw at y ffaith bod cyfrifoldeb ar bob un ohonom o ran sbwriel a sut y gallwn ni leihau sbwriel.

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chadwyni bwyd brys fel McDonalds ac maent wedi gosod biniau sbwriel ychwanegol y tu allan.

Rydym yn gwneud llawer o waith yn monitro ardaloedd lleol i fynd i’r afael â’r broblem, mae gennym ddiwrnodau gorfodi hefyd lle mae swyddogion addysg yn dosbarthu taflenni i roi cyngor i breswylwyr ynghylch sut i ailgylchu’n gywir. Rydym hefyd yn cynnal ymgyrchoedd megis ymgyrchoedd glanhau traethau a sesiynau codi sbwriel.

Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio ar Gyfrifoldeb Cynhyrchwyr – sef o bosibl cael cynhyrchwyr i dalu am waredu deunydd pacio na ellir ei ailgylchu.

C6. O ran ailgylchu, mae Sir Gaerfyrddin y tu ôl i siroedd eraill. Pam y mae cymaint o wahaniaeth rhwng gwahanol siroedd? A fyddem yn ailgylchu mwy pe bai gennym system ailgylchu ar wahân? A oes gennych unrhyw atebion ar waith?

Y Cynghorydd Evans: Mae’r sir wedi cyrraedd y targed ailgylchu (64%) a osodwyd gan Lywodraeth Cymru – cyrhaeddodd Sir Gaerfyrddin 64.6% ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Mae hyn yn golygu ein bod yn y 15fed safle yng Nghymru allan o 22 sir.

Mae llawer o ddadlau wedi bod ynghylch ailgylchu cymysg. I bobl sy’n byw naill ai mewn cartref amlfeddiannaeth neu lety a rennir gallai fod yn broblem fawr o ran storio gyda’r holl wahanol gynwysyddion. Fodd bynnag, mae’r ffigurau’n dangos ei fod yn llwyddiannus. Ymhen dwy flynedd mae’n rhaid i ni newid y lorïau a bydd yn rhaid inni benderfynu pa lwybr yr ydym yn ei ddilyn. Bydd angen i ni hefyd ddechrau casglu gwydr.

Pan fyddwn yn edrych ar y data ac yn cymharu e.e. Ceredigion a Sir Benfro gyda Sir Gaerfyrddin, mae ein poblogaeth deirgwaith yn fwy, efallai y bydd hyn yn ystumio’r ffigurau. Pan fyddwch yn edrych ar siroedd tebyg o ran maint, rydym yn perfformio mewn ffordd debyg.

Cyn gwneud y penderfyniad, byddwn yn ymgynghori â phreswylwyr ynghylch eu barn am ailgylchu cymysg. 

Cai: Cafodd raglen ddogfen ei chyhoeddi a oedd yn dangos bod rhai siroedd yn anfon eu sbwriel i drydydd gwledydd, i Maleisia neu Indonesia. A yw CSC yn anfon ei sbwriel dramor?

Y Cynghorydd Evans: Rydym yn anfon sbwriel i Sweden i’w drosi am wres ac aeth 1% o’n gwastraff i Dwrci yn ddiweddar ond rydym yn gwneud ein gorau i beidio â gwneud hyn. Yr hyn y mae angen i ni ei ystyried yw sut i ddefnyddio gwastraff rydym yn ei gynhyrchu fel bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi.

Arwen: Beth allwn ni ei wneud fel Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin i helpu’r amgylchedd?

Y Cynghorydd Evans: Cynyddu ymwybyddiaeth ynghylch gollwng sbwriel fyddai’r peth gorau. Os nad oes gan eich ysgol finiau ailgylchu – mae hynny’n rhywbeth y dylech chi fod yn ein lobïo i’w cael, gan ddweud ‘os ydych am i ni ailgylchu ac nid i ollwng sbwriel – rhowch y biniau i ni!’  Bydd hyn yn addysgu pawb o oedran iau i gymryd gofal ac i wybod bod y gwastraff yn mynd i gael ei ailddefnyddio.

Hoffem rhoi ddiolch i Cynghorydd Hazel Evans am ei hamser ac am gymryd rhan yn y cyfweliad i roi’r cyfle i ni i afael â phryderon pobl ifanc ynghylch yr amgylchedd a Gorffennaf Di-blastig. Cafodd ein cwestiynau eu hateb ac rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod ym mis Medi.

Gwnewch Eich Marc

https://www.ukyouthparliament.org.uk/makeyourmark/

Rydym ni’n yn cefnogi’r ymgyrch ‘GWNEWCH EICH MARC’, sef yr ymgynghoriad mwyaf ymysg ieuenctid ledled y Deyrnas Unedig ac eleni, y nod yw annog dros 6000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ledled Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan ac i bleidleisio ynghylch y materion pwysicaf iddyn nhw.

Mae Amber Treharne o Borth Tywyn wedi cael ei hethol i gynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru fel aelod Sir Gaerfyrddin yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2019/20.

Llynedd, cymerodd dros 1.1 miliwn o bobl ifanc ran yn y bleidlais genedlaethol a oedd yn penderfynu pa faterion fyddai’n cael eu trafod gan Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae ychydig yn wahanol eleni gan fod 3 pleidlais ar y papur pleidleisio:

1. 1 bleidlais o 5 pwnc ledled y DU a restrir.

2. 1 bleidlais o 5 pwnc datganoledig.

3. Lle i chi ysgrifennu’r pwnc lleol yn eich barn chi.

Bydd y bleidlais yn ei chynnal tan hanner dydd, dydd Mercher, 9fed o Hydref a gellir pleidleisio ar-lein neu drwy bapur pleidleisio sydd ar gael gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal bydd papurau pleidleisio yn cael eu hanfon at yr holl Gynghorau Ysgol Uwchradd a Phrosiectau Ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin er mwyn annog pob person ifanc yn y sir i gymryd rhan yn ymgyrch ‘Gwnewch eich Marc’ ac i helpu i ledaenu’r neges er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais ar lefel y Deyrnas Unedig.

Ar 8fed Tachwedd 2019 – bydd aelodau Senedd Ieuenctid y DU yn dod ynghyd i ddadlau a phenderfynu, ar y materion pwysicaf i ymgyrchu arnynt am y flwyddyn i ddod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad ar: Participation@carmarthenshire.gov.uk

Dysgu Go Iawn Ar Gyfer Bywyd Go Iawn

Rydym wedi cael amser prysur yn ddiweddar gydag aelodau yn teithio i bob cornel o’r Sir yn cyflwyno ein Siartiau Dysgu Go Iawn ar Gyfer Bywyd Go Iawn i bob Pennaeth Uwchradd i sicrhau bod copi yn cael ei arddangos ym mhob un o’n Hysgolion Uwchradd.

PDF Real Learning Poster

Mae’r Siarter yn cyfleu barn dros 150 o bobl ifanc ac yn dangos y 10 maes dysgu fel, Cymorth Cyntaf, Byw’n Annibynnol, Addysg Wleidyddol a Sgiliau DIY, y credwn y dylid eu haddysgu mewn ysgolion i roi’r wybodaeth, a’r sgiliau i ni angen i baratoi ar gyfer ein dyfodol.

Rydym yn gweithredu fel llais i bobl ifanc trwy gynrychioli barn plant a phobl ifanc eraill mewn materion sy’n bwysig iddynt. Wrth wneud hynny, rydym yn creu cyfleoedd i bobl ifanc eraill gymryd rhan yn ystyrlon wrth wneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio ar eu bywydau ac i greu newid cadarnhaol.

Dywedodd ein Haelod Steffan “Rydym yn gyffrous iawn bod cwricwlwm newydd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru, sy’n ei wneud mor bwysig i archwilio addysg a gwneud yn siŵr bod pobl ifanc yn cymryd rhan yn y gwaith o’i ddatblygu. Rydym am gael cwricwlwm sy’n ymgysylltu ac yn berthnasol i bobl ifanc er mwyn sicrhau newid cadarnhaol yn Sir Gaerfyrddin a Chymru. Rydym yn edrych ymlaen at gael cwricwlwm a fydd yn helpu i lunio dyfodol pobl ifanc ac i’n paratoi ar gyfer gweddill ein bywydau ”

EIN CYNHADLEDD… Fe wnaethom gasglu barn pobl ifanc o’n Cynhadledd Ieuenctid Blynyddol a gynhaliwyd ym mis Tachwedd 2018. Cwricwlwm i Baratoi Ni am Oes oedd y pwnc  ddaeth i’r brig trwy bleidlais yn Sir Gâerfyrddin, Cymru a’r DU yn 2018 gwneud eich balot marciau.  Rhoddodd y gynhadledd y cyfle i bobl ifanc 14-23 oed gael lleisio eu barn, eu sylwadau a’u barn gan aelodau etholedig a phenderfynwyr yn Sir Gaerfyrddin er mwyn dylanwadu ar y cwricwlwm lleol a hawliau’r dysgwyr yma yn y sir.

CYFARFOD PENNAETHAU ADDYSG…Gyda chefnogaeth y Tîm Cyfranogi, yn y Gwanwyn cawsom y cyfle i gyflwyno ein Siarter Bywyd Go Iawn ar gyfer Dysgu Go Iawn i Benaethiaid Uwchradd ac Uwch Reolwyr Addysg Sir Gaerfyrddin gyda’r nod o ddylanwadu ar y cwricwlwm lleol newydd sy’n cael ei ddatblygu fel rhan o Cwricwlwm yr Ysgol Genedlaethol Newydd 2022.

CWRICWLWM CENEDLAETHOL YR YSGOL 2022… Addysg yn Newid!  Mae Llywodraeth Cymru yn newid y ffordd yr ydym yn dysgu ac am i bob plentyn a pherson ifanc fod:
– Dysgwyr uchelgeisiol a galluog;
– Cyfranwyr mentrus a chreadigol;
– Dinasyddion moesegol a gwybodus;
– Unigolion iach a hyderus.

Gallwch gymryd rhan a dweud eich dweud ar y cwricwlwm newydd ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #CwricwlwmiGymru neu drwy ymweld â Gwefan Llywodraeth Cymru

Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol

Mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol, neu’r CCB, yn fodd i ni fel pobl ifanc ddangos ac adrodd am y gwaith rydym wedi’i gyflawni fel Cyngor Ieuenctid i’r Aelodau o Fwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin a phenaethiaid gwasanaethau eraill yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Mae’n gyfle hefyd i ni nodi amcanion a nodau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Rydym wedi cyflawni cymaint yn ystod y 12 mis diwethaf yn genedlaethol ac yn rhanbarthol :
• #TlodiMisglwyfSirGâr
• Yr Adroddiad Brexit
• Digwyddiadau Cymru Ifanc (megis Hawl i Holi am Brexit a Chynhadledd Cymru Ifanc)
• Senedd Ieuenctid Cymru
• Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig
• Ymgyrch Make Your Mark
• Cynhadledd Dysgu Go Iawn ar gyfer Bywyd Go Iawn
• Gwersyll Haf
• Llysgenhadon Cymunedol Hawliau Plant
• Uwchgynhadledd Ieuenctid Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae’r gwaith rydym wedi’i gyflawni fel pobl ifanc yn anhygoel! Mae wedi cymryd llawer o waith caled a phenderfyniad er mwyn cyrraedd lle’r ydym heddiw. Mae’r CCB yn rhoi cyfle i ni arddangos ein cyflawniadau a’n hamcanion ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

Y LANSIAD SWYDDOGO

Defnyddiom y CCB eleni fel llwyfan i lansio’r ymgyrch #TlodiMisglwyfSirGâr yn swyddogol. Rhoddodd y Cyng. Mair Stephens, Hyrwyddwr Tlodi Misglwyf, araith i’w lansio’n swyddogol yn ein CCB. Ers hynny, rydym wedi bod yn dosbarthu blychau ac eitemau #TlodiMisglwyf i ysgolion, canolfannau teulu a banciau bwyd ledled Sir Gaerfyrddin mewn ymdrech i drechu Tlodi Misglwyf gymaint ag y gallwn ac i helpu cynifer o ferched pan ddaw’r amser.

BLAENORIAETHAU

Yn ystod ein CCB, rhoddodd ein Cadeirydd, Brittany, araith am 2 o’n prif flaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Ein dwy brif flaenoriaeth ar gyfer y flwyddyn yw iechyd meddwl a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

Mae iechyd meddwl yn fater mawr i bobl ifanc ac mae’n cynyddu. Mae’n fater pwysig sy’n effeithio ar bobl o bob oed ym mhobman. Ar hyn o bryd mae gennym ein hymgyrch iechyd meddwl ein hunain #StoriHarriet. Bu Harriet, sy’n aelod o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, yn dioddef o iselder a gwnaeth hyn ei hysbrydoli i ddechrau ei hymgyrch sy’n annog pobl i ‘Ddechrau sgwrs i newid bywyd’.

Yn ystod pleidlais Make Your Mark 2018, cafodd iechyd meddwl ei nodi fel y prif fater yn Sir Gaerfyrddin gyda chyfanswm o 1,035 o bleidleisiau. Mae hyn yn profi ei fod yn bryder mawr i bobl ifanc Sir Gaerfyrddin, felly penderfynom fel Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin y bydd yn un o’n prif flaenoriaethau ar gyfer 2019/2020.

Ein blaenoriaeth arall yw Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn a bydd yn dathlu 30 mlynedd ers iddo gael ei sefydlu ym mis Tachwedd. Mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) yn gytundeb rhyngwladol cyfreithiol rwymol sy’n nodi hawliau sifil, gwleidyddol, economaidd, cymdeithasol a diwylliannol pob plentyn, waeth beth fo’u hil, eu crefydd neu eu galluoedd. Mae’r CCUHP yn cynnwys 54 o erthyglau sy’n nodi hawliau plant a sut dylai llywodraethau gydweithio er mwyn sicrhau eu bod ar gael i’r holl blant.

Pobl Ifanc yn Cymryd Rhan Mewn Cyfweliadau Staff

Rydym wedi bod yn gweithio gyda Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a Thîm Cyfranogiad a Hawliau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin i roi cyfleoedd i’n haelodau, ac i bobl ifanc eraill yn y dyfodol, fod yn rhan o’r broses o recriwtio staff ar gyfer y gwasanaethau Cymorth Ieuenctid, yn arbennig ar gyfer y rolau hynny sy’n gweithio wyneb yn wyneb gyda phobl ifanc.

Youre hired! involving young people in staff interviews

Rydym yn dod â sgiliau i’r broses gyfweld sy’n wahanol i’r rhai a gynigir gan weithwyr proffesiynol; rydym yn edrych am rinweddau yn yr ymgeisydd na fyddai gweithwyr proffesiynol yn chwilio amdanynt efallai, ac felly gallwn gryfhau’r broses gyfweld.

Dywedodd Amber Treharne, aelod o Ben-bre, fod cymryd rhan yn y cyfweliadau yn “brofiad gwych oedd yn rhoi cipolwg ar y broses gyfweld. Mae’n hollol wych fod y cyngor yn annog pobl ifanc i gymryd rhan yn y broses. Fel pobl ifanc gallwn gynnig persbectif gwahanol ar rinweddau’r sawl sy’n cael ei gyfweld a sut mae’n ymwneud â phobl o’n grŵp oedran ni. Dyma’r ffordd ymlaen, heb os, a bydden i wrth fy modd yn gweld y Cyngor Sir yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc gymryd rhan mewn cyfweliadau.”

Mae cael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc nid yn unig yn gwneud yn siŵr bod modd inni ddefnyddio ein Hawl i fod yn rhan o benderfyniadau sy’n effeithio arnom, ond mae hefyd yn gallu helpu i wneud yn siŵr bod y Cyngor yn cyflogi’r bobl iawn i weithio gyda phlant a phobl ifanc. Nid yw panel cyfweld o bobl broffesiynol bob amser yn gofyn y cwestiynau y byddai pobl ifanc yn hoffi ateb ar eu cyfer.

Dywedodd Sarah Powell, Uwch-swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant, fod “pobl ifanc yn dda am feddwl am bethau mewn ffordd wahanol ac maen nhw’n gwybod beth maen nhw ei eisiau a beth maen nhw ei angen gan y bobl sy’n gweithio gyda nhw. Mae cael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc yn gyfle gwych i’r tîm recriwtio ac i’r bobl ifanc sy’n cymryd rhan. Mae cael yr ymgeisydd gorau o ganlyniad i gynnwys pobl ifanc yn y broses gyfweld yn gallu helpu i wella canlyniadau plant a phobl ifanc yn ogystal â gwella’r gwasanaethau rydym yn eu darparu”.

Mae llawer o fanteision o gael Panel Cyfweld o Bobl Ifanc (hyperddolen) neu o gael person ifanc i fod yn aelod cyfartal o banel cyfweld proffesiynol. Mae cael y cyfleoedd hyn i roi ein barn yn gwneud inni deimlo’n fwy grymus ac yn arwydd bod gweithwyr proffesiynol yn ein parchu ni a’n safbwyntiau. Hefyd gall gryfhau’r berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc, gan roi mwy o ffydd i ni bobl ifanc yn y gweithwyr proffesiynol a’u gwasanaethau, gan ein bod yn teimlo eu bod nhw’n gwrando arnom.