Gwnewch Eich Marc

https://www.ukyouthparliament.org.uk/makeyourmark/

Rydym ni’n yn cefnogi’r ymgyrch ‘GWNEWCH EICH MARC’, sef yr ymgynghoriad mwyaf ymysg ieuenctid ledled y Deyrnas Unedig ac eleni, y nod yw annog dros 6000 o bobl ifanc rhwng 11 a 18 oed ledled Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan ac i bleidleisio ynghylch y materion pwysicaf iddyn nhw.

Mae Amber Treharne o Borth Tywyn wedi cael ei hethol i gynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru fel aelod Sir Gaerfyrddin yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig ar gyfer 2019/20.

Llynedd, cymerodd dros 1.1 miliwn o bobl ifanc ran yn y bleidlais genedlaethol a oedd yn penderfynu pa faterion fyddai’n cael eu trafod gan Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin.

Mae ychydig yn wahanol eleni gan fod 3 pleidlais ar y papur pleidleisio:

1. 1 bleidlais o 5 pwnc ledled y DU a restrir.

2. 1 bleidlais o 5 pwnc datganoledig.

3. Lle i chi ysgrifennu’r pwnc lleol yn eich barn chi.

Bydd y bleidlais yn ei chynnal tan hanner dydd, dydd Mercher, 9fed o Hydref a gellir pleidleisio ar-lein neu drwy bapur pleidleisio sydd ar gael gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin.

Yn ogystal bydd papurau pleidleisio yn cael eu hanfon at yr holl Gynghorau Ysgol Uwchradd a Phrosiectau Ieuenctid yn Sir Gaerfyrddin er mwyn annog pob person ifanc yn y sir i gymryd rhan yn ymgyrch ‘Gwnewch eich Marc’ ac i helpu i ledaenu’r neges er mwyn sicrhau bod gan Gymru lais ar lefel y Deyrnas Unedig.

Ar 8fed Tachwedd 2019 – bydd aelodau Senedd Ieuenctid y DU yn dod ynghyd i ddadlau a phenderfynu, ar y materion pwysicaf i ymgyrchu arnynt am y flwyddyn i ddod.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â’r Tîm Cyfranogiad ar: Participation@carmarthenshire.gov.uk

GARTREF, OES CAM-DRIN? TI DDIM AR BEN DY HUN!

Ar ddydd Iau yr 20fed o Dachwedd 2014 er mwyn cyd-daro â phen-blwydd Diwrnod Hawliau Plant Cyffredinol yn 25 oed cynhaliwyd ein Cynhadledd Ieuenctid Flynyddol.

Y penderfyniad oedd canolbwyntio ar bwnc cam-drin domestig yn dilyn ymgynghoriad â phobl ifanc ar draws y sir. Gofynnwyd i bobl ifanc pa faterion oedd bwysicaf iddynt ac roeddent yn effeithio arnynt fwyaf o ddydd i ddydd.

Cafodd y bobl ifanc gipolwg ar yr effaith y mae cam-drin domestig yn ei gael, a rhoddir cyfle iddynt drafod eu canfyddiad o Gam-drin Domestig.

Roedd yn dda gweld y gallai’r rhan fwyaf o bobl ifanc nodi’r 5 prif thema o gam-drin domestig. Fodd bynnag, ni allai unrhyw un ddiffinio cam-drin domestig.

Ar ddiwedd 2014, mynychodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin gyfarfod o Bartneriaeth Plant a Phobl Ifanc Sir Gaerfyrddin i roi adborth ar y gynhadledd ac i amlygu prif ganfyddiadau’r adroddiad hwn.

Poster Cartref, oes cam-drin? Ti ddim ar ben dy hun!

LAWRLWYTHWCH EICH COPI YMA!