Ym mis Mehefin 2020, gall pobl ifanc 16 a 17 oed yng Nghymru bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yn unol â Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020. Y tro diwethaf y cafodd yr oedran pleidleisio ei ostwng oedd yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl ym 1969 lle gostyngwyd yr oedran o 21 i 18. Roedd hynny amser maith yn ôl.

Golyga’r bill hwn y bydd gan bobl ifanc 16 a 17 oed yr hawl bellach i leisio eu barn am faterion difrifol sy’n effeithio ar eu dyfodol, megis iechyd, addysg a’r economi.

Mae pobl yn dadlau am ein dyfodol ac mae gennym yr hawl bellach i ddweud ein dweud. Mae etholiad nesaf y Senedd i fod i’w gynnal ddydd Iau 6 Mai 2021 i ethol 60 aelod i’r Senedd.

 Hwn fydd yr etholiad cyntaf lle caniateir i bobl ifanc 16 a 17 oed fwrw pleidlais. Yn etholiadau’r Senedd, mae gan bob pleidleisiwr ddwy bleidlais yn y system aelodau ychwanegol.

Y bleidlais gyntaf yw am ymgeisydd i ddod yn Aelod dros etholaeth y pleidleisiwr, wedi’i ethol drwy system y cyntaf i’r felin. Mae’r ail bleidlais ar gyfer rhestr ymgeiswyr plaid gaeedig ranbarthol.

Rwy’n disgwyl ymlaen yn arw eleni at bleidleisio am y tro cyntaf ac at allu cael dylanwad ar faterion (yn lleol beth bynnag).

Arwen Skinner