Bob blwyddyn rydym yn annog ac yn cefnogi pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan mewn proses genedlaethol o wneud penderfyniadau.
Mae Make Your Mark yn gyfle i bobl ifanc 11-18 oed ledled y DU ddweud eu dweud a dechrau ar eu taith ddemocrataidd drwy bleidleisio ar y materion y maent am eu newid.
Bydd canlyniadau Make Your Mark yn dylanwadu ar gannoedd o brosiectau ac ymgyrchoedd dan arweiniad ac ar gyfer pobl ifanc ledled y DU!
Bydd Aelodau Seneddol Ieuenctid a phobl ifanc eraill yn y gymuned yn ymgyrchu ac yn ymchwilio i’r pynciau sydd yn ennill y nifer fwyaf o bleidleisiau, i ddylanwadu ar Senedd y DU a’u cynrychiolwyr lleol; yn sicrhau bod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn gwrando ar farn pobl ifanc.
DYMA’CH CYFLE NAWR I WNEUD EICH MARC!
Dilynwch y ddolen isod i fwrw’ch pleidlais ac i wneud gwahaniaeth!
https://www.makeyourmark.youthimpact.app/register/me
Gwnewch eich Marc, Gwnewch Gwahaniaeth!