Mae ein prosiect Codi Llais yn Erbyn Trais yn cyflwyno drama-ddogfen sy’n tynnu sylw at y camau hanfodol ac yn rhoi golau ar brofiad person ifanc ar ôl adroddiad am ddigwyddiad o gam-drin domestig.

Rydym yn falch iawn o’n haelodau wrth iddynt arwain ar bob agwedd ar y prosiect Codi Llais yn Erbyn Trais, gan gynnwys cael rolau serennog, ysgrifennu sgriptiau, ffilmio, a chyfweld â gweithwyr proffesiynol fel Heddlu Dyfed Powys, Gwasanaethau Plant, a CarmDas. Cliciwch yma i ddarllen profiad ein Harweinydd Prosiect o ddatblygu’r drama-ddogfen – Ennill Y Frwydr Yn Erbyn Cam-drin Domestig

Lansiwyd ein Drama Ddogfen a grëwyd ac a gynhyrchwyd gan aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, ‘Codi Llais yn erbyn Trais’ gan Owain Lloyd, Cyfarwyddwr Addysg a Phlant y Cyngor mewn digwyddiad yn Hwb Busnes Sir Gaerfyrddin yn Rhodfa’r Santes Catrin ddydd Llun, 25 Tachwedd 2024.

Rydym yn ddiolchgar iawn i Wasanaeth Cymorth Ieuenctid Sir Gaerfyrddin am ariannu’r drama-ddogfen ac i bawb sydd wedi bod yn rhan a gwneud i’r syniad ddod yn fyw, a’r holl waith caled a roddwyd i mewn i godi ymwybyddiaeth am fater mor enbyd. Rydym yn gobeithio y bydd yr adnodd hwn yn cael ei rannu ymhlith gwahanol sefydliadau i roi cipolwg i bobl ifanc ar y gefnogaeth sydd ar gael a’r hyn sy’n digwydd pan fyddant yn datgelu neu’n adrodd am gam-drin domestig.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy ddefnyddio ein tudalen ar-lein Cysylltwch â ni neu cymerwch ran yn y sgwrs drwy ddefnyddio #CodiLlaisynErbynTrais ar gyfryngau cymdeithasol.