Bydd Amber ymhlith y 24 o aelodau oedd yn cynrychioli Cymru yn y Nhŷ’r Cyffredin yn Tachwedd
Amber, sy’n 16 oed ac o Burry Port yw ein haelod etholedig o Senedd Ieuenctid y DU yn 2019/20. Bydd Amber yn ymuno ag aelodau Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig yn Nhŷ’r Cyffredin ddydd Gwener 8fed o Dachwedd i ddadlau a phenderfynu ynghylch y mater mwyaf pwysig i ymgyrchu yn ei gylch yn 2019. Bydd Amber ymhlith y 24 o aelodau oedd yn cynrychioli Cymru yn y digwyddiad.
Cyn y digwyddiad dywedodd Amber “Rwyf mor gyffrous fy mod yn mynychu’r Tŷ Cyffredin ar 8fed o Dachwedd i gynrychioli Sir Gaerfyrddin a Chymru. Mae’n gyfle y gallwn i erioed fod wedi breuddwydio amdano felly rydw i mor ddiolchgar fy mod i wedi cael fy ethol i wneud hynny. ”
Arweiniodd Amber ar Bleidlais ‘Make Your Mark’ 2019 yn Sir Gaerfyrddin, sef yr ymgynghoriad ieuenctid mwyaf yn y Deyrnas Unedig gyda dros 800,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan. Gwnaeth Amber a’i thîm annog dros 4,000 o bobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed ledled Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan a phleidleisio ar y materion pwysig sy’n cael effaith ar eu bywydau.
Ym mis Tachwedd, bydd Aelodau Senedd Ieuenctid y DU yn dod at ei gilydd i ddadlau a phenderfynu yn Nhŷ Cyffredin UKYP sy’n eistedd ar y materion pwysicaf i ymgyrchu arnynt am y flwyddyn i ddod. Bydd yr eisteddiad yn nodi diwedd Wythnos y Senedd. Datgelwyd Canlyniadau Pleidlais Make your Mark (Caerfyrddin a Chymru ar tudalen 26-27) ym mis Hydref
Y pum mater i’w trafod yw:
1. AMDDIFFYN YR AMGYLCHEDD
Mater y DU – Mae gennym gyfrifoldeb i amddiffyn yr amgylchedd rhag effeithiau newid yn yr hinsawdd ar gyfer y genhedlaeth nesaf; ac y dylai’r Llywodraeth edrych tuag at ddewisiadau amgen carbon niwtral.
2. RHOWCH DDIWEDD AR DROSEDD CYLLYLL
Mater datganoledig – Mae gormod o fywydau pobl ifanc yn cael eu colli oherwydd troseddau cyllyll; mae angen i’r Llywodraeth wneud mwy i helpu i ddod â’r epidemig troseddau cyllyll i ben.
3. IECHYD MEDDWL
Mater datganoledig – Dylai gwasanaethau gael eu gwella gyda chymorth pobl ifanc, a dylent fod ar gael mewn ysgolion.
4. MYND I’R AFAEL A THROSEDDAY CASINEB
Mater y DU – Dylem gael ein haddysgu ar sut i riportio troseddau casineb. Credwn y dylai’r Llywodraeth fuddsoddi mewn creu lleoedd diogel sy’n hyrwyddo undod mewn cymunedau.
5. CWRICWLWM I’N PARATOI NI AR GYFER BYWYD
Mater Datganoledig – Dylai ysgolion ymdrin â phynciau fel cyllid, addysg rhyw a pherthynas a gwleidyddiaeth
Ychwanegodd Amber “Rwy’n edrych ymlaen at drafod y prif faterion o Make Your Mark yn Nhŷ’r Cyffredin a byddaf yn sicrhau y bydd llais dros 3700 o bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin yn cael ei glywed yn San Steffan. Hoffwn ddiolch i’r holl bobl ifanc a gymerodd ran yn Make Your Mark eleni, gwelwyd ymdrech anhygoel yn Sir Gaerfyrddin! Diolch”