
Fel aelodau o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, roedden ni’n gyffrous i helpu i drefnu’r digwyddiad Cwrdd â’r Ymgeiswyr 2026 yn gynharach eleni, digwyddiad a roddodd gyfle i bobl ifanc gwrdd â’r bobl sy’n gobeithio ein cynrychioli yn etholiadau’r Senedd.
Buom yn gweithio gyda Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid Cyngor Sir Caerfyrddin, Newidwyr y Dyfodol Foothold Cymru, Y Prosiect Gwleidyddiaeth a Thîm Addysg aYmgysylltu Pobl Ifanc y Senedd i gynllunio a chynnal ein digwyddiad hustyngau ieuenctid – Cwrdd â’r ymgeiswyr
Gyda hawliau pleidleisio bellach wedi’u hymestyn i bawb 16 oed a throsodd yng Nghymru, mae’n bwysicach nag erioed bod pobl ifanc yn deall gwleidyddiaeth ac yn teimlo’n hyderus i ddweud eu dweud. Dyna’n union beth oedd y digwyddiad hwn.
Daeth y digwyddiad ag ymgeiswyr etholiad y Senedd o wahanol bleidiau gwleidyddol at ei gilydd a rhoddodd gyfle i bobl ifanc ofyn cwestiynau yn uniongyrchol. Yn hytrach na chlywed gwleidyddion yn siarad ar y cyfryngau cymdeithasol neu’r newyddion, roedden ni’n gallu cael sgyrsiau go iawn am faterion sy’n effeithio ar ein bywydau a’n dyfodol.

.
Dywedodd aelod o’r Cyngor Ieuenctid Kaya Mainwaring, aelod o’r Tîm Cynllunio “Roedd bod yn rhan o’r digwyddiad Cwrdd â’r Ymgeiswyr 2026 yn gyfle gwych i helpu pobl ifanc i leisio eu barn. Roedd yn anhygoel gweld cymaint o bobl ifanc yn gofyn cwestiynau, yn rhannu eu barn ac yn ymgysylltu â democratiaeth.”
Un o fanteision mwyaf y digwyddiad oedd yr hyder a roddodd i bobl ifanc. Gall siarad yn uniongyrchol ag ymgeiswyr etholiadol deimlo’n frawychus, ond creodd y digwyddiad ofod croesawgar lle roedd pob cwestiwn yn cael ei werthfawrogi.
Gofynnodd pobl ifanc gwestiynau ar ystod o bynciau, gan gynnwys:
★ Costau byw cynyddol
★ Addysg a chyfleoedd i bobl ifanc
★ Cymorth iechyd meddwl
★ Tai a chyflogaeth
★ Newid yn yr hinsawdd a’r amgylchedd
Dywedodd llawer o bobl ifanc wrthyn ni eu bod yn teimlo’n fwy gwybodus am wleidyddiaeth wedyn ac wedi cael gwell dealltwriaeth o sut mae penderfyniadau a wneir yn y Senedd yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Dywedodd rhai mai dyma’r tro cyntaf iddyn nhw siarad â gwleidydd wyneb yn wyneb. Roedd yr adborth a gawson ni yn gadarnhaol iawn a dywedodd pobl ifanc wrthym eu bod yn mwynhau gallu gofyn cwestiynau a oedd yn bwysig iddyn nhw ac yn gwerthfawrogi clywed gwahanol safbwyntiau o bob rhan o’r pleidiau gwleidyddol.
Rydyn ni’n credu bod digwyddiadau fel Cwrdd â’r Ymgeiswyr yn bwysig iawn oherwydd nid y dyfodol yn unig yw’r bobl ifanc, maen nhw’n rhan o’r presennol. Bydd y penderfyniadau a wneir gan wleidyddion heddiw yn llywio bywydau pobl ifanc am flynyddoedd lawer.
Os nad ydyn ni’n cymryd rhan nawr, efallai y bydd penderfyniadau am ein dyfodol yn cael eu gwneud heb ystyried ein barn. Drwy greu cyfleoedd i bobl ifanc ymgysylltu’n uniongyrchol â chynrychiolwyr gwleidyddol, gallwn helpu i sicrhau bod lleisiau ieuenctid yn parhau i fod wrth wraidd democratiaeth Cymru.
Yr hyn a ddangosodd y digwyddiad Cwrdd â’r Ymgeiswyr 2026 yw bod pobl ifanc yn barod i gymryd rhan, siarad, gofyn cwestiynau heriol a gwneud cyfraniad gwirioneddol i fywyd cyhoeddus pan roddir y cyfle iddyn nhw. Rydyn ni’n falch o fod wedi helpu i greu’r cyfle hwnnw ac edrychwn ymlaen at weld hyd yn oed fwy o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y dyfodol.












DARGANFYDDWCH FWY!
Eisiau dysgu mwy am sut mae democratiaeth yn gweithio yng Nghymru, sut mae pleidleisio’n digwydd, neu beth mae’r Senedd yn ei wneud?
Ewch i wefan Senedd Cymru i archwilio gwybodaeth, fideos ac adnoddau hawdd eu deall am ddemocratiaeth ac etholiadau Cymru. Hyd yn oed os nad ydych chi’n ddigon hen i bleidleisio eto, mae dysgu am ddemocratiaeth yn bwysig oherwydd gall y penderfyniadau a wneir gan gynrychiolwyr etholedig effeithio ar bethau fel ysgolion, trafnidiaeth, gofal iechyd a’r amgylchedd.
Trwy ddeall sut mae democratiaeth yn gweithio a chymryd rhan mewn trafodaethau am y materion sy’n bwysig i chi, gallwch helpu i lunio dyfodol Cymru.