Pam wnes i benderfynu ymwneud â gwleidyddiaeth?

‘Yrhyn sy’n fy ngwthio’n fwy yw dysgu am brofadau pobl eraill’

O ymgyrchu dros Senedd Ieuenctid Cymru yn 2018, i ymuno â Youth Cymru a Chyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ddiweddar, rwyf yn angerddol dros wleidyddiaeth ac yn ymwneud cryn dipyn â’r maes.

Yr adeg honno, er bod yr holl fanylion ynglŷn â sut yr oedd llywodraethau, cynghorau a gwleidyddiaeth yn gweithio yn ddryslyd, roeddwn i’n awyddus i weld rhai newidiadau roeddwn i’n gwybod  bod angen iddynt ddigwydd, a pha ffordd well o wneud hynny na chyfrannu’n uniongyrchol?

Rwyf bob amser wedi meithrin y meddylfryd “os nad oes neb arall yn gwneud, yna fe wna i”. Roeddwn i’n teimlo nad oedd llawer o enwau adnabyddus yn y byd gwleidyddol neu gyhoeddus yng Nghymru ar y pryd yn rhoi sylw i faterion yn ymwneud â LGBTQ + ac iechyd meddwl yn benodol, felly roeddwn i’n awyddus i godi ymwybyddiaeth am y materion hyn a chwilio am eraill a oedd â nod tebyg.

 Wrth reswm, mae llawer mwy o ffocws wedi cael ei roi ar faterion yn ymwneud â LGBTQ + a thrafodaethau iechyd meddwl yn ystod y blynyddoedd diwethaf; ac mae hyn wedi fy annog i barhau i fod yn weithgar yn y byd gwleidyddol gan ei bod yn amlwg fod rhywbeth yn gweithio. Ond gan fod llawer i’w wneud o hyd, rwy’n dal yn awyddus i ymwneud â gwleidyddiaeth.

Dysgu am brofiadau eraill sydd yn fy annog i yn anad dim; o homoffobia achlysurol mewn ysgolion i fwlio hiliol a stigma iechyd meddwl seiliedig ar hen gelwyddau, mae’r rhain yn broblemau go iawn y mae pobl yn eu hwynebu Rwy’n awyddus i helpu eraill sy’n dioddef.

(Rhaid cyfaddef fy mod hefyd wedi cael fy nhanio gan fy ngwrthwynebiad i rywfaint o gynnwys unedau Bagloriaeth Cymru, ond mater i’r dyfodol yw hwnnw.)

Laurie Thomas

PERSON IFANC AR GYFER AR IFANC!

Fy enw i yw Cai a fi yw un o’r aelodau cyntaf Synedd Ieuenctid Cymru

 Helo bawb fy enw i yw Cai a fi yw un o’r aelodau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru un o dri sydd wedi cael ei ethol yn ardal Sir Gaerfyrddin. Y rwyf i wedi cael ei ethol ar gyfer Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro. Mae Lois Cambell wedi ei ethol ar gyfer Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr. Ac Emily Kaye sydd wedi ei ethol ar gyfer Llanelli. Rydym hefyd wedi cael y fraint i fod yn rhan o’r Cyngor ieuenctid Sir gar a mae yna wedi bod croeso mawr gyda’r holl aelodau CYC.

Cefais fy ethol yn aelod nôl yn Rhagfyr ar ôl etholiad digidol brwd. Mae’r Senedd arloesol newydd yma yn rhoi platfform gwych i bobl ifanc leisio eu barn ar faterion sy’n bwysig iddyn nhw yn genedlaethol. Mae yna 60 aelod (ASIC yn fyr) gyda 40 yn cynyrchioli etholaethau Cymru a 20 aelod wedi cael eu dewis gan sefydliadau partner. Mae hyn er mwyn bod y grŵp yma mor gynhwysol â phosib.

Rydym wedi cael cyfarfod llawn yn y Senedd ym Mae Caerdydd ddiwedd Chwefror 2019. Roedd y cyfarfod cyntaf yn arbennig gydag areithiau pwerus, proffesiynol a personol yn cael ei adleisio yn y Senedd. Yn sicr roedd yn agoriad llygad i glywed dadlau ac oedd yn barchus. 

Mi benderfynom flaenoriaethu tri phwnc i weithio ac ymgyrchu drostynt ar gyfer y tymor ddwy flynedd nesaf sef ‘Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl’, ‘Sbwriel a gwastraff plastic’, a ‘Rhoi sgiliau bywyd yn y cwricwlwm’.

Mae’n braf i weld bod Cyngor ieuenctid Sir gar yn blaenoriaethu’r pynciau pwysig yma yn barod, gyda phroject ‘Stori Harriet’ a ‘Dysgu go iawn ar gyfer bywyd go iawn’. Mae’n dangos bod Cyc yn casglu barn pobl ifanc yn effeithiol ac wedi adlewyrchu barn pobl ifanc ar draws Cymru.

Yn y misoedd ar flynyddoedd i ddod bydd yr aelodau Senedd Ieuenctid yn gweithio yn ddifyr i gyflawni ei flaenoriaethu drwy gymorth sefydliadau pobl ifanc a hefyd cynghorau Ieuenctid fel CYC. Byddwn yn rhannu syniadau a barn, rhannu adnoddau a hybu dealltwriaeth ar y ddau ochr. Dwi wir yn edrych ymlaen at gydweithio gyda’r cyngor Ieuenctid Sir Gar. Drwy gydweithio gallwn wneud gwahaniaeth i fywydau pobl ifanc Sir Gaerfyrddin ond hefyd Cymru!