Cynhaliwyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn Neuadd y Sir ddydd Iau, 10fed o Ebrill. Roedd pobl ifanc o bob rhan o Sir Gaerfyrddin yn bresennol a chawsom gyfle i rannu ein cyflawniadau o’r flwyddyn ddiwethaf gydag Aelodau Etholedig y Cyngor Sir, Rheolwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth o fewn yr adran Addysg a Gwasanaethau Plant.

Yn y cyfarfod gwnaethom groesawu’r Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, Owain Lloyd i agor y cyfarfod yn swyddogol. Rydym mor ddiolchgar gan mai dyma ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol cyntaf o’r Cyngor Ieuenctid ers ei benodi yn Gyfarwyddwr ym mis Hydref 2024. 

Dan gadeiryddiaeth Magda Smith, ein Cadeirydd sydd ar fin gadael y rôl, mae’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn rhoi cyfle i Aelodau’r Cyngor Ieuenctid gyflwyno adroddiadau ac areithiau ar gyflawniadau a gwaith y Cyngor Ieuenctid dros y flwyddyn ac i bennu blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Wrth siarad yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol dywedodd Magda, sy’n 18 oed o Bentregwenlais: “Wrth edrych yn ôl, rwy’n teimlo’n hynod o falch o’r hyn rydyn ni wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. Mae bod yn Gadeirydd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin wedi bod yn fraint. Mae wedi agor drysau nad oeddwn erioed wedi’u dychmygu, o gynrychioli lleisiau ifanc wrth wneud penderfyniadau i feithrin cyfeillgarwch parhaol. Rydw i wedi tyfu nid yn unig fel arweinydd ond hefyd fel person. Yn bwysicaf oll, rwy’n gobeithio fy mod wedi gwneud gwahaniaeth trwy helpu pobl ifanc i deimlo eu bod yn cael eu clywed, eu grymuso a’u hysbrydoli i greu newid. Er bod y bennod hon yn dod i ben, bydd yr effaith a’r atgofion yn aros gyda mi am oes. Rwy’n gwybod bod dyfodol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin yn ddiogel yn nwylo’r bobl ifanc addawol”

Mae’r deuddeg mis diwethaf wedi bod yn brysur, gydag aelodau’n gweithio ar lansio ein prosiect cam-drin domestig yn swyddogol o’r enw Codi Llais yn erbyn Trais a Phrosiect Ein Llais lle buom yn gweithio gydag Ysgolion Uwchradd i edrych ar Wersi Bywyd Go Iawn.

Rydym hefyd wedi bod yn ffodus iawn i gael Evie yn ein cynrychioli ni, Sir Gaerfyrddin a Chymru yn Nhŷ’r Cyffredin fel rhan o Senedd Ieuenctid y Deyrnas Unedig.

Yn dilyn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol rydym yn falch o gyhoeddi’r newyddion cyffrous mai Bwrdd Gweithredol Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ar gyfer 2025 yw:
★ Toby Bithray – Cadeirydd
★ Ben Bantock – Is-gadeirydd
★ Evie Somers – Ysgrifennydd
★ Samuel Kwan – Trysorydd
★ Zach Davis – Swyddog Cyfathrebu

Dywedodd Toby, ar ôl derbyn swydd y Cadeirydd “Yn fy rôl fel Is-gadeirydd dros y deuddeg mis diwethaf, rwyf wedi bod yn falch o gynorthwyo’r Cadeirydd mewn cyfarfodydd ac arwain y bobl ifanc. Nawr rwy’n teimlo’n barod ac yn gyffrous i ddod yn Gadeirydd y Cyngor Ieuenctid fy hun. Rwy’n gobeithio parhau i ymhelaethu ar leisiau pobl ifanc yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, a dod ag ymdeimlad pellach o gymuned o fewn y Cyngor Ieuenctid.”

Anerchodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen y cyfarfod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith cydweithredol rhwng Cyngor Ieuenctid a Bwrdd Gweithredol Cyngor Sir Caerfyrddin, prosiect a ddatblygwyd i annog pobl ifanc i ddylanwadu ar feysydd blaenoriaeth Cyngor Sir Caerfyrddin. 

Gwnaethom hefyd groesawu’r Kelly Tomlinson o Foothold Cymru dystysgrifau i’n Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol dystysgrifau Volunteens i’r aelodau am eu cyfraniad i Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin. Gallwch ddarllen mwy trwy glicio yma ar yr hyn a ddywedodd aelodau’r Cyngor Ieuenctid am gofrestru ar gyfer y prosiect Gwirfoddolwyr.

Cawsom gwmni Gill Adams, Prif Reolwr y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid a gyflwynodd aelodau a gwblhaodd yn llwyddiannus Hyfforddiant ar Gyflwyniad i Ddiogelu a ddarparwyd gan Staff y Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid yn ystod ein Gwersyll Haf Blynyddol y llynedd.

Roedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn caniatáu inni fynegi ein gwerthfawrogiad ac i ddathlu gwaith caled, ymroddiad a chyfraniad gwerthfawr cyn-aelodau’r Cyngor Ieuenctid sydd wedi gadael yn ddiweddar. Cyflwynwyd tystysgrif a Gwobr Cydnabyddiaeth i’r cyn-aelodau a oedd yn bresennol gan y Cyfarwyddwr Addysg a Phlant, Owain Lloyd.

Caewyd ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol 2025 yn swyddogol gan y Cynghorydd Sir Carys Davies, Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig, Cydlyniant Cymunedol a Pholisi Cynllunio a annerchodd y siambr gan ddweud neges gadarnhaol am bwysigrwydd parhau i fod yn llais pobl ifanc ac i hyrwyddo materion pobl ifanc yn lleol ac yn genedlaethol yn y Senedd a San steffan.

Os hoffech ragor o wybodaeth neu os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, cysylltwch â ni trwy e-bostio info@sirgar.gov.uk neu anfonwch neges ar unrhyw un o’n llwyfannau Cyfryngau Cymdeithasol Facebook, Instagram neu X.