Hyfforddiant

Rydym yn cydgweithio gyda Phlant yng Nghymru a Cyngor Sir Gaerfyrddin i ddarparu sesiwn hanner diwrnod Hyfforddi ar Gyfranogi a Hawliau Plant i Ymarferwyr, Rheolwyr a Gwneuthurwyr Polisi o’r Cyngor Sir Gaerfyrdidn a’n Partneriaid sydd yn awyddus awyddus i archwilio sut y gallant gynyddu cyfranogiad plant a phobl ifanc yn eu maes gwaith gwasanaeth a gwaith y sefydliad.

BYDD YR HYFFORDDIANT YN:
Nodi’r fframwaith damcaniaethol a deddfwriaethol ar gyfer cyfranogiad plant a phobl ifanc yng Nghymru a chynnwys technegau y gellir eu defnyddio’n uniongyrchol gyda phlant a phobl ifanc;
Archwilio’r dulliau y gellir eu defnyddio gyda phlant a phobl ifanc ar sail unigolyn a grŵp i’w cynnwys mor eang â phosibl mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd;
Deall Cyfranogiad a sut mae’n galluogi Hawliau Plant
Helpu cyfranogwyr i deimlo eu bod wedi’u grymuso i ddefnyddio offer ymarferol i gefnogi cyfranogiad plant a phobl ifanc
Cael hwyl!

DIWRNOD HYFFORDDIANT NESAF: Dydd Mercher 29 Mehefin 2022 9.30yb – 12.30yp



AM YR HYFFORDDWR:
Mae Mike Mainwaring wedi gweithio gyda Phlant a Phobl Ifanc dros 25 mlynedd. Yn arbenigo mewn camddefnyddio sylweddau, digartrefedd ymhlith pobl ifanc, cyfranogi a hawliau plant. Mae’n hyfforddwr cymwys ac mae wedi hyfforddi plant, pobl ifanc ac oedolion ar gamddefnyddio sylweddau, materion LGBT, hawliau plant, cyfranogi, delio ag ymddygiad anodd, diogelu ac amddiffyn plant, Camfanteisio Rhywiol ar Blant a ffiniau. 

Mae hefyd wedi datblygu a rhedeg prosiectau ymchwil arweiniol ieuenctid. Mae wedi gweithio mewn amryw o leoliadau fel prosiectau cyffuriau stryd, adsefydlu preswyl, gwaith allgymorth, chwarae, gwaith ieuenctid, rheoli prosiectau tai a rhedeg cynghorau ieuenctid. Mae ganddo gefndir celf, yn gweithio gyda phobl ifanc mewn trallod trwy gyfrwng celf ac yn arddangos ei waith ei hun am faterion cymdeithasol.

AM FWY O WYBODAETH CYSYLLTWCH A:
Sarah Powell, Uwch Swyddog Cyfranogiad a Hawliau Plant
E-bost: cyfranogiad@sirgar.gov.uk Ffôn: 01267 246435 (ext 6435)