
OMae dros 300 o bobl ifanc o bob cwr o’r DU yn paratoi i fynychu Cyfarfod Flynyddol Senedd Ieuenctid y DU (SIDU) yn Nhŷ’r Cyffredin yr wythnos hon.
Mae Eistedd Blynyddol SIDU yn ddigwyddiad pwysig lle mae lleisiau pobl ifanc yn ganolog. Bydd ein Evie, sy’n 17 oed ac o Gaerfyrddin, ymhlith y mynychwyr, yn cynrychioli Sir Gaerfyrddin yn Llundain ddydd Iau 6ed Tachwedd 2025.
Bydd y siambr hanesyddol yn cynnal Cyfarfod Flynyddol Senedd Ieuenctid y DU, lle bydd Aelodau Senedd Ieuenctid (ASI) o bob rhan o’r Deyrnas Unedig, Tiriogaethau Tramor Prydain, a Dibyniaethau’r Goron yn ymgynnull yn ffurfiol. Mae’r Cyfarfod hon yn darparu llwyfan hanfodol i gynrychiolwyr ifanc drafod a dylanwadu ar faterion cenedlaethol.
Yn ystod y digwyddiad mawreddog bydd Evie ac Aelodau eraill y Senedd Ieuenctid yn cymryd rhan mewn pum sesiwn ddadl gyffredinol ar 5 bynciau sy’n bwysig i bobl ifanc:
★ Tai
★ Iechyd
★ Cyflogaeth
★ Troseddu
★ Cynaliadwyedd
Bydd y trafodaethau hyn yn canolbwyntio ar bum pwnc o Maniffesto newydd y SIDU ar gyfer tymor 2024-26, o’r enw ‘Llunio Ein Dyfodol Heddiw, Nid Yfory’ (Shaping Our Future Today, Not Tomorrow) Nod y dadleuon hyn yw rhoi cyfle i ASI rannu eu safbwyntiau ar y pynciau dan sylw.

Wrth gynrychioli Sir Gaerfyrddin, dywedodd Evie: “Rwy’n edrych ymlaen at glywed barn Aelodau eraill o’r Senedd Ieuenctid yn y Cyfarfod yn Nhŷ’r Cyffredin. Mae cynrychioli pobl ifanc Sir Gaerfyrddin yn y siambr yn anrhydedd a braint enfawr.”
Mae Evie, yn ei rôl fel cynrychiolydd ieuenctid etholedig, yn barod i weithio ochr yn ochr â llunwyr polisi a phenderfyniadau i fynd i’r afael â’r meysydd blaenoriaeth hyn, gan sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin ac ar draws y DU yn gwneud gwahaniaeth ac yn arwain at newid cadarnhaol.
Cynhelir y digwyddiad a drefnir gan yr Asiantaeth Ieuenctid Genedlaethol a Senedd y DU gan y Gwir Anrhydeddus Syr Lindsay Hoyle AS, Llefarydd Tŷ’r Cyffredin.
Bydd y ddadl eleni yn cael ei darlledu’n fyw ar Parliament TV a’i ffrydio’n fyw ar sianeli cyfryngau cymdeithasol Senedd y DU. Gallwch hefyd gael y wybodaeth ddiweddaraf am yr Cyfarfod Flynyddol ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #UKYPHoC.
Anfonwch neges atom os hoffech fwy o wybodaeth neu os hoffech ymuno yng Nghyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin, Rydym yn edrych ymlaen at glywed wrthych chi.