Ar 28 Mehefin 2023, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn 2023 yn y Siambrau yn Neuadd y Sir. Fel Cadeirydd y Cyngor, roedd yn bleser gennyf gadeirio’r cyfarfod a rhannu’r uchafbwyntiau a’r llwyddiannau roeddem wedi’u cyflawni dros y flwyddyn ddiwethaf. Roedd y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol eleni yn gyfarfod arbennig inni gan ein bod yn dathlu ein pen-blwydd yn ugain oed fel Cyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin. Ers sefydlu’r cyngor yn 2003 mae wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y ddau ddegawd diwethaf, ac felly roedd cydnabod hyn mor bwysig.
Myfyrio ar ein Cynnydd
Wrth gyflawni’r flwyddyn lawn gyntaf ar ôl y cyfyngiadau symud, rhoddais ystyriaeth i’r modd roeddem wedi meithrin ymdeimlad newydd o waith tîm a chydweithio, a helpodd o ran cynyddu lleisiau’r bobl ifanc ledled y sir. Mae’r sgiliau hyn roeddem wedi’u hennill ar deithiau preswyl yn ein galluogi ymhellach i ddibynnu ar ein gilydd, i gefnogi ein gilydd, ac i ddathlu llwyddiannau ein gilydd, gan gryfhau’r undod o fewn ein cyngor. Gan weithio gyda’r tîm cyfranogi ar lefel leol a chenedlaethol, dywedais sut roedd hi’n anrhydedd gweld ein prosiectau a ddechreuodd yn ystod y cyfyngiadau symud yn cael eu cwblhau.
Ar ben hynny, mynegais fy mraint o weithio gyda grŵp mor dalentog ac amrywiol o unigolion sydd wedi rhoi eu hamser, eu hegni a’u harbenigedd i’n cyngor a’n cymuned dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dathlu ein Gwaith
Roedd ein hagenda ar gyfer y noson yn llawn eitemau cyffrous a oedd yn arddangos ein gwaith caled a’n hymroddiad. Gwnaethom gyflwyno casgliad o’n holl brosiectau, diweddariadau gan ein haelodau, a seremoni wobrwyo. Rhoddodd hyn gyfle inni drafod a myfyrio ar y cynnydd roeddem wedi’i wneud yn ein gwahanol is-grwpiau, megis ein prosiect diweddaraf “Codi llais yn erbyn trais”, yn ogystal â phrosiectau gyda sefydliadau partner fel Seneddau Ieuenctid.
Edrych tua’r Dyfodol
Fel y Cadeirydd, cyflwynais ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, sy’n cynnwys Sesiwn Hyfforddi Llysgenhadon Hawliau Plant mewn cydweithrediad â thîm Comisiynydd Plant Cymru. Hefyd cyhoeddais gynlluniau ar gyfer ein cynhadledd arfaethedig sy’n canolbwyntio ar hawliau plant, a hynny i ddathlu ein pen-blwydd yn ugain oed. Yn ogystal, rhoddais gipolwg ar ein gwaith ymgynghori lleol cyntaf sy’n ceisio deall y materion pwysig sy’n wynebu pobl ifanc yn ein sir, a mynd i’r afael â’r materion hynny. Mae dyfodol y cyngor yn edrych yr un mor gyffrous â’r gorffennol, ac ni allaf aros i weld beth arall sydd ar y gweill inni yn y dyfodol.
Gwobrau a Chydnabyddiaeth
Bu’r Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol hefyd yn llwyfan i anrhydeddu’r unigolion sydd wedi gwneud cyfraniadau sylweddol i’n Cyngor Ieuenctid. Gwnaethom gyflwyno gwobrau ar gyfer hyfforddiant yGofrestr Amddiffyn Plant, Datblygu Animeiddiad Hyfforddi Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru, yn ogystal â chydnabod ein cyn-aelodau. Mae ein cadeiryddion a’n haelodau blaenorol wedi bod yn rhan ganolog o lais y bobl ifanc ar draws y sir, gan ddylanwadu ar benderfyniadau allweddol a wnaed gan oedolion a chyfrannu cymaint at ein Cyngor Ieuenctid. Rydym yn teimlo y dylid canmol eu holl amser yn gwirfoddoli, er mwyn eu hatgoffa bod yr hyn a gyflawnwyd ganddynt yn cael ei werthfawrogi’n fawr, ac y dylent fod yn falch o’u hymrwymiad a’u hymroddiad.
I gloi’r noson
I gloi’r CCB, cyflwynodd Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin, y Cynghorydd Darren Price ei araith gloi, gan dynnu sylw at bwysigrwydd ymgysylltu â phobl ifanc a’r effaith gadarnhaol a gawn ar y gymuned. Wrth inni edrych tuag at y dyfodol, rydym yn parhau i fod yn frwdfrydig ac yn ymrwymedig i wneud gwahaniaeth ym mywydau plant a phobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin.
Yn dilyn hyn, darparwyd bwffe bach inni, a roddodd gyfle inni ddod i adnabod aelodau’r cabinet a chynrychiolwyr y Cyngor Sir yn well. Cawsom ein canmol am sut y bu ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol yn llwyddiant ysgubol, ac rydym yn gobeithio parhau i baratoi’r ffordd ar gyfer llais pobl ifanc ledled y sir, gan ddarparu dyfodol mwy disglair a chynhwysol i bob person ifanc.
Gan Lucas Palenek