Mae Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol yn brosiect wedi’i greu gan Gyngor Ieuenctid Sir Gaerfyrddin sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin bwysleisio’r materion sy’n bwysig iddyn nhw. Mae ein prosiect yn ymwneud â sicrhau bod ein lleisiau’n cael eu clywed a’u hystyried gan y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gyda’r nod o wella’r gwasanaethau rydym ni’n eu defnyddio neu i wneud gwahaniaeth i’r materion sy’n effeithio ar ein bywydau. Rydym ni’n siarad am bethau fel addysg, iechyd meddwl, gwasanaethau cymunedol a mwy.

Ar ôl i ni gasglu’r ymatebion i Bleidlais Ein Llais (cliciwch yma i gael gwybodaeth gefndir. [dolen i we-dudalen arall] Cafodd Dysgu Gwersi Bywyd Go Iawn yn yr Ysgol ei bleidleisio gan bobl ifanc fel y mater pwysicaf, hwn oedd mater blaenoriaeth y Cyngor Ieuenctid am y flwyddyn. Dros y 18 mis diwethaf, rydym ni wedi cwblhau ymchwil, arolygon, cynnal grwpiau ffocws, pleidleisiau a threfnu digwyddiadau i glywed yn uniongyrchol gan bobl ifanc yn Sir Gaerfyrddin

Gwnaethom ni ymgyrchu dros newid a chreu’r digwyddiad ‘Dysgu am Oes‘ i wrando ar farn a phrofiadau pobl ifanc am y gwersi bywyd go iawn yn eu lleoliadau addysg. Wedi’i gynnal ym mis Chwefror 2025, roedd y digwyddiad Ein Llais: Dysgu am Oes yn llwyddiant mawr, wedi’i gefnogi gan nifer o’n Hysgolion Uwchradd, Penderfynwyr a Rheolwyr Adran Addysg Cyngor Sir Caerfyrddin, a fu’n gweithio gyda’i gilydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau i gasglu eu hadborth ar eu profiadau gyda gwersi bywyd go iawn mewn ysgolion.

Dywedodd ein haelod, Bethan: “Ces i’r cyfle i gynnal y digwyddiad, ac roeddwn i’n nerfus cyn dechrau ond ar ôl peth amser enillais i fwy o hyder i siarad o flaen y bobl ifanc, yr athrawon a’r gwesteion. Roedd hefyd yn ddiddorol clywed y gwahanol safbwyntiau o wahanol ysgolion. Rwy’n credu ei bod yn ddiddorol iawn bod un ysgol yn cael ei dysgu rhywbeth gwahanol i ysgol arall.

Rydym yn hapus i rannu gyda chi ein Zine Dysgu Go Iawn a gwblhawyd yn ddiweddar ar y canfyddiadau a’r adborth a gawsom gan bobl ifanc a ddaeth i’r digwyddiad.

Mae’r Zine yn rhannu barn ar y canlynol:
★ Pa wersi bywyd mae pobl ifanc yn meddwl eu bod wedi’u dysgu yn yr ysgol.
★ Archwilio safbwyntiau ar yr heriau a’r cyfleoedd sydd eu hangen i lywio drwy fywyd bob dydd.
★ Dangos meysydd fel sgiliau digidol mewn gwaith yn y dyfodol, heriau cymdeithasol ac emosiynol y mae angen eu gwella.

Cliciwch yma i ddarllen ein Zine Dysgu Go Iawn.

Drwy gynnal “Ein Llais, Ein Pleidlais, Ein Dyfodol”, rydym ni’n sicrhau bod anghenion pobl ifanc yn parhau i fod wrth wraidd penderfyniadau lleol. Ein dyfodol yw hyn felly gadewch i ni wneud y mwyaf o’r cyfle!Rydym yn falch iawn o fynd i gyfarfodydd Penaethiaid Ysgolion Sir Gaerfyrddin cyn yr haf i rannu ein canfyddiadau a thynnu sylw at y rheiny sy’n gallu gwneud gwahaniaeth.

I fod yn rhan o’r sgwrs, gadewch sylw isod neu dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol

Erthygl gan
Bethan Jones