Beth yw eich barn am gael misglwyf eco-gydnaws? Cwbwlhewch ein harolwg neu cysylltwch a ni i roi gwybod

Mae nifer ohonoch eisoes yn gwybod ein bod wedi bod yn gweithio’n galed gyda Chyngor Sir Caerfyrddin a chefnogwyr ar ein prosiect #PeriodPovertySirGâr. Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein #PeriodPovertySirGâr wedi bod yn darparu dros 177,760 o gynhyrchion misglwyf am ddim i’n holl ysgolion, clybiau ieuenctid, prosiectau a sefydliadau er mwyn i’r holl ferched ifanc gael mynediad iddynt a’u defnyddio ar unrhyw adeg .

OND MAE GENNYM NEWYDDION…
Rydym mor gyffrous i allu parhau â’n gwaith am flwyddyn arall diolch i Grant Urddas Mislif Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi mwy o arian i ni, cyfanswm o £13,437 i’w wario ar ystod o gynnyrch misglwyf/glanweithiol i’w rhoi i ferched a menywod ifanc.  Yn ogystal â bod AM DDIM, bydd y cynnyrch ar gael yn y ffordd fwyaf ymarferol a phriodol bosibl.

Diolch ichi gyd am eich cefnogaeth ac am helpu’r prosiect hwn i dyfu a bod mor llwyddiannus yn y sir ac rydym yn gobeithio eich bod mor gyffrous â ni i weld y bennod nesaf o’n gwaith yn dwyn ffrwyth!

CYMERWCH RAN A DWEUD EICH DWEUD….

Y llynedd, gwnaethom brynu cynnyrch misglwyf ‘traddodiadol’ ond er mwyn rhoi mwy o ddewis i ferched a menywod ifanc, rydym yn eich annog i feddwl am gynnyrch eco-gydnaws y gellir eu hailddefnyddio ac sy’n gynaliadwy yn economaidd megis ‘moon cups’, padiau amldro a phants misglwyf.

Mae angen inni wario’r holl arian ar gynnyrch sydd eu hangen a’u heisiau arnoch felly y cam cyntaf yw cael eich barn am ddefnyddio cynnyrch misglwyf amldro/eco-gydnaws gan fod hwn yn un opsiwn rydym yn ei ystyried a byddem wrth ein bodd pe baech yn ein helpu ni drwy lenwi’r arolwg byr hwn (linc i’r arolwg) neu drwy roi sylwadau isod.

CAEL Y WYBODAETH DDIWEDDARAF…
Cofiwch ein dilyn ni ar y cyfryngau cymdeithasol ar #PeriodPovertySirGâr ar i weld sut mae eich safbwyntiau wedi dylanwadu ar y prosiect ac er mwyn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sy’n digwydd;

Twitter – @Youth_SirGâr
Facebook – Carmarthenshire Youth Council
Instagram – @Youth_SirGâr
Ebost – info@sirgar.gov.uk
Cysylltu â ni 

Diolch ichi unwaith eto!

Erthygl gan
Freya a Amber